Defnyddio geiriaduron, rhestrau termau, a chymhorthion iaith eraill yn gywir.
Yr hyn a gawsom i swper y noson gyntaf oedd tafellau o goes porc wedi eu rhostio, gyda thatws, pys a chawlifflwr, i ddewis y lleiaf lletchwith o'r tair ymdrech yn y Geiriadur Termau.
Un o'r termau a awgrymir yw 'blodfresychen'.
(ii) Dylid egluro'r nodau yn glir ac mor fanwl ag oedd modd mewn termau cyfathrebu ymarferol.
Maen na lot o hen ffraeo yn y byd actio yn Lloegr rhwng y crachactorion ar actorion mwy gwerinol hynny efo acen 'ranbarthol'. Rhwng y posh ar oiks i ddefnyddio'r termau technegol.
Nododd sawl athro bwyntiau canmoliaethus a manwl: ...wedi llwyddo dehongli `jargon' y CC mewn termau dealladwy a chlir.....`themau trawsgwricwlaidd', `deimensiynau traws- gwricwlaidd' a `cymwyseddau trawsgwricwlaidd' yn enwedig...; dyma un o'r pecynnau mwya ymarferol a defnyddiol a dderbyniwyd gan yr adran erioed...
Mewn termau amrwd, ac y mae gwleidyddiaeth yn fater amrwd weithiau, y mae ymreolaeth yn golygu trosglwyddo rheolaeth dros fantolen flynyddol o tua biliwn o bunnoedd; nid rhyw fanion pitw yr ydym yn eu ceisio!
Gallwn ninnau ddweud fod Saunders Lewis y clasurydd - trwy'i adnabyddiaeth dosturiol o gymhlethdod natur dyn, a thrwy herio'i gymeriadau i fentro - ei fod yn osgoi ffurfioldeb crebachlyd y ddeunawfed ganrif, ac yn ymgyrraedd at synthesis rhwng clasuraeth a rhamantiaeth: prawf arall o annigonolrwydd y termau hynny.
Yr un syniad a arweiniodd y meddwl Cristionogol ymhen amser i ddehongli iawn yng Nghrist mewn termau aberthol, ond gan ei drawsnewid yn syniad am iawn lle y talai Duw ei hun bris yr aberth.
Cywirdeb termau a'u defnydd pynciol.
Yn y cyd-destun Cristionogol rhoddwyd ystyr newydd a llawnach i'r termau hyn i Iddew o Gristion, a daeth iddynt arwyddocâd cwbl newydd o fewn i'r eglwys.
Y termau Hebraeg sy'n cyfleu'r waredigaeth hon yw'r canlynol: a.
Mae Harri wedi ei ganfod ei hun yn wleidyddol mewn termau negyddol.
Cerdd am John Roberts, y chwaraewr rygbi rhyngwladol a aeth yn genhadwr, ^wyr Iolo Caernarfon, beirniad a phrifardd eisteddfodol, yw 'Y Dyrfa'. Disgrifir gêm rygbi yn Twickenham ynddi, a hynny gan ddefnyddio termau rygbi wedi eu lled-Gymreigio.
Termau a glywid yn aml mewn cynadleddau rhanbarthol ac yn nhrafodaethau Ysgolion Haf Plaid Cymru ydoedd annibyniaeth, rhyddid, perchentyaeth, cydweithrediad mewn diwydiant, datganoli, gwasgaru diwydiant a dangos mai un o amodau gwarineb yw osgoi mawrdra.
Disgrifiodd Newton, hyd yn oed, ei waith mewn termau tebyg, fel "casglu graean ar draeth gwybodaeth".
Ymhellach, dadleuwn yn gryf nad yw'n ddigonol i'r iaith Gymraeg gael ei chyfyngu o fewn termau un Pwyllgor Pwnc yn unig.
Bu'r traddodiad llenyddol Cymraeg yn hoff iawn o haniaethau llachar, weithiau'n wirebol, dro arall yn ddim ond addurnol, a byddaf yn meddwl am lu problemau Cymru yn y termau hynny.
Mae wedi'i fynegi mewn termau a oedd yn gwbl nodweddiadol o'r dosbarth yna yng nghymdeithas oes Victoria yr oedd ei addysg a'i gefndir wedi ei ragbaratoi i fod ar y brig yn feddyliol, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol.
Daw termau fel hyn ag enwau'r Dr D. J. Davies a'i briod Dr Noelle Davies i'm cof.
Rhan gyntaf y broses yw'r hyn a elwir yn 'côd fenthyg', sef benthyca geiriau, termau ac ystrydebau o'r iaith ddominyddol i'r iaith frodorol (sef arfer sydd wedi cael ei gondemnio'n chwyrn gan 'buryddion iaith' yng Nghymru'n ddiweddar, gyda chyflwynwyr ifainc ar y radio a'r teledu yn arbennig yn dod o dan y lach!).