Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teyrnas

teyrnas

Cafwyd goleuni newydd ar rai o ddamhegion yr Arglwydd Iesu, hynny'n dod â'r aelodau'n nes at ddeall natur Teyrnas Dduw a'i dylanwad ar y rhai hynny sy'n amcanu at fod yn aelodau ohoni.

Dywedodd un tyst wrtho fod y Cymry o'r bryniau a aeth i ymuno gyda Siartwyr Frost yn credu mai cyrchu Llundain oedd eu nod, ymladd yno un frwydr fawr ac ennill teyrnas.

Ennill anfarwoldeb Rhyfeddod mwyaf Cambodia inni oedd adfeilion teyrnas Angkor.

Y mae iddo dair rhan: y modd yr enillir Enid (a hanes hela'r carw purwyn yn arweiniad tuag ato); adran gysylltiol lle'r â'r arwr a'i wraig i'w teyrnas eu hunain ac ymserchu yn ei gilydd i'r fath raddau nes ennyn beirniadaeth a chrechwen y llys; a hyn eto'n arweiniad at wir thema'r 'rhamant', ymgais Geraint i'w brofi ei hun, neu'i wraig, mewn cyfres o ymladdfeydd sy'n cyrraedd uchafbwynt yn 'chwaraeon lledrithiog' y cae niwl.

Ganddi hi yr oedd yr wybodaeth gywir am Dduw ac am ddyn a hi, trwy ei sacramentau, oedd yn trin allweddi Teyrnas Nefoedd.

Ple ydoedd dros drefnu teyrnas mewn ffordd na wadai i bobol eu hawl i weithio er cynnal corff ac enaid ac na ddibrisiai mohonynt yn eu golwg eu hunain," meddai Arwr Glew Erwau'r Glo.

Wrth droi ei wyneb tua Jerwsalem yr oedd yn ymroi i ymgyrch Teyrnas y Tangnefedd, yr Israel newydd.

Rhoddwyd iddo fywyd newydd, a daeth yn ddinesydd Teyrnas Dduw.

Dinas a choleg Caerdydd yw man genedigaeth y cylchgrawn hwn, yma y gwelwyd bod tir newydd yn ein disgwyl yng Nghymru, i'w ddarganfod gennym a'i weithio a'i feddiannu, er lledu teyrnas diwylliant Cymreig.

Wedi iddynt glirio'r fforestydd daeth adfeilion teyrnas gyfan i'r golwg yn llawn o demlau a phlasau; erbyn inni gyrraedd Cambodia yr oedd yn bosibl inni weld ymysg yr adfeilion rai o olygfeydd rhyfeddaf y byd.

Nid oes ryfedd felly bod 'cenedl' a 'brenhiniaeth' (neu 'teyrnas', fel y cyfieithir yr un gair weithiau) yn ymddangos yn gyfochrog yn y Beibl, ac i bob pwrpas yn cael eu defnyddio fel cyfystyron - "chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd" Ymddengys i Israel, o sylwi ar y cenhedloedd oddi amgylch, ganfod eu bod o ran eu trefn gymdeithasol yn deyrnasoedd neu'n freniniaethau, a daeth felly i ystyried meddu brenin fel un o nodau cenedligrwydd.

Nid oedd angen gwneud hynny, am fy mod wedi mynd ag ef i mewn i'm Teyrnas i - Teyrnas goleuni a Pherffeithrwydd - lle nad oes angen corff daearol.