Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teyrnasu

teyrnasu

Gwelodd olau dydd gyntaf, yn ôl ei dystiolaeth ei hun, pan oedd Harri VII yn teyrnasu.

Gwrthododd yn gadarn eu gwahoddiad i ymuno â hwy gan fod un o'i ddengair deddf yn cyhoeddi'n ddigyfaddawd mai'r pricia oedd yn teyrnasu ar nos Sadwrn.

Bu'n dyst i fwrlwm rhyfeddol iawn: 'Yma', meddai, 'y mae fy enaid wedi teimlo ei ingau dwysaf a'i lawenydd penaf.' Y diwydiant haearn oedd yn teyrnasu yn ystod ei gyfnod ef yn Nhredegar, a rhoes Nefydd ddisgrifiad byw o brofiad beunyddiol y gweithiwr haearn yn Nyffryn Sirhywi:

Rhaid croesawu'r posibilrwydd o weld Llywodraeth yn teyrnasu yn Llundain a fydd yn rhoi cyfiawnder cymdeithasol ar ben ei rhaglen.

Ond bellach, y mae hi eto'n teyrnasu, heb ei diorseddu gan na sychder y llynedd na dathliadau Jiwbili Arian plant dynion, eleni.

Ynys o graig a'i bilidowcars yn teyrnasu arni, y goleudy'n gannaidd, amlinell croes Dwynwen ar las y nen, gweddillion ei heglwys yn swatio yn y pant a bae bach perffaith oddi tanoch.

Byddant hwy'n treulio ac yn darfod; byddi Di'n aros, yn teyrnasu o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb.

Dyma lle'r oedd y Gymraeg yn teyrnasu fel yr unig iaith.

Gan nad yw'n rhoi gofynion ar y sector preifat, mae'n dilyn syniadaeth Dorïaidd na ddylid ymyrryd yn y farchnad, ac mai'r farchnad sydd yn teyrnasu dros bob grym arall.

Os clywaf ar y radio fod heddwch yn teyrnasu yng Ngogledd Iwerddon, y Dwyrain Canol a mannau eraill yn y byd, fe fydda' i fel Tomos yn amau'r ffaith, er mai dyna fy ngobaith a'm dymuniad.

Yr oedd dyhead o du'r ifanc yn y Lluoedd i weld byd gwell lle gwelid cyfiawnder, rhyddid, a heddwch yn teyrnasu, ond nid oedd gan na chrefydd nac Eglwys ddim i'w wneud â sylweddoli'r dyhead hwnnw.