Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thad

thad

Ty Apple yn reit fawr.Y teulu i gyd yn byw yno - hi, ei brodyr, gwraig a phlentyn ei brawd hynaf yn ogystal a'i mam a'i thad.

Diau na fyddai y Daeargi Cymreig yn bod fel ci sioe onibai am ei thad.

Ar ôl cael addewid gan ei thad na fyddai'n rhaid iddi briodi, gwellhaodd ei llygad.

Wrth fynd at y drws, fe groesodd ei meddwl yn sydyn, fel y gwnaeth droeon yn ddiweddar, tybed beth fuasai ymateb ei mam - a'i thad, ran hynny - i'r fath ddarpariaeth a spaghetti i swper.

(Gwyddwn, wrth gwrs, beth oedd diweddglo'r hanes, ond daliwn i obeithio, fel pe bawn yn blentyn, nad oedd yn wir.) Yng nghanol y gwasanaeth bu ergyd anferthol a chladdwyd Marie a'i thad o dan wal a cherrig.

Priod ffyddlon Alwena a thad annwyl Sandra.

Roedd Marie erbyn hyn yn ugain oed ac yn digwydd bod adref am benwythnos, ac yn naturiol aeth gyda'i thad i'r Gwasanaeth Coffa yng nghanol tref Enniskillen.

Holl ddigwyddiadau'r noson cynt; breuddwyd llygad Duw, ei chynnwrf gyda'i thad, ymdrech y gof i ymgrogi a nawr eto llais bach Robin a llythyr Hannah.

Roedd ei thad yn ei afiaith yn trafod cynlluniau'r Llety o wythnos i wythnos.

Neidiodd un o'i llygaid o'i phen yn wyrthiol pan geisiodd ei thad drefnu priodas iddi.

Perthyn i'w thad yr oedd hon, cyfrwys yn ei ffordd fach wirion, yn ddirgelaidd fel yntau.

Roedd Cathy yn fyrlymus ei chroeso gan fod ei thad wedi sôn wrthi am yr erthygl ac am ei wahoddiad i Anna ddod i weld y cwch.

Galwai ei thad yn aml a gwelai yn ei wyneb unwaith eto ei dynerwch cynnar.

(Ganddi hi roedd y baedd Large White gorau ar Benrhyn Llyn.) Rhesymau gwahanol, fodd bynnag, a barai fod y postman lleol - priod a thad i bump o blant, a blaenor gwerthfawr gyda'r Annibynwyr - yn troi i mewn i Gerrig Gleision ambell i fin nos o dan yr esgus o ddanfon teligram.

Ond fe ddaeth ei thaid o du ei thad o Lyn yn bedair oed gyda'i rieni.

Ni welodd fawr mwy ar ei thad gan iddo yntau dyfu'n gyw o frid ac ateb galwad y môr.

"Dy nain," meddai ei thad, gan ddal i chwifio'i hosan fel coblyn.

Cynyddai'r cynnwrf a'r siom ynddi a chododd yn sydyn a gwisgo'i gwn werdd gynnes, anrheg pen blwydd ei thad iddi, a mynd allan i'r berllan gan gerdded yn gyffrous rhwng y coed, 'nôl a mlaen ar hyd ac o gwmpas y llyn pysgod am hanner awr gyfan gan fwmian iddi ei hun: 'Hannah ddim yn deall .

Tyddyn gwag ar dir ei thad, yn uwch i fyny'r mynydd, oedd Llety'r Bugail.

Dyna o leiaf y rheswm a roddai fy mam am ymagwedd anghariadus ei thad tuag ati.

Gellir dweud fod hynny yr un mor wir pan alwodd ei thad heibio yn 1937.

Roedd yn ddigon bodlon i'w briodi yn ei dlodi ond roedd ei thad yn awyddus iddi fachu rhyw ffermwr neu siopwr cyfoethog.

Gofynnodd ei thad a yw pawb ym Mhrydain yn gwrthod bwyta cig moch gan feddwl mai gwlad Fwslwmaidd yw hi.

Ni fedrai Mrs Parker ddweud wrth ei merch bod ei thad wedi bod ar goll mor hir bellach nes ei bod hi bron â bod yn sicr ei fod e wedi marw.

Wna i byth anghofio wyneb Helen Mirren (rhyw gymysgedd rhwng wyneb Greta Barbo ac wyneb Humphrey Bogart) wrth iddi sylweddoli bod ei gūr a thad ei phlant yn dreisiwr ac yn llofrudd.

Mae ei grintachrwydd ef yn ffurfio rhyw wrthbwynt i foneddigeiddrwydd Harri sy'n rhoi hanner ei gyflog i Marged tra fo'i thad yn wael.

'Teg a mawr at gymeriad', meddai Siôn Cain yntau am etifeddes, 'ond ei thir a rodd ei thad'.

Ei law wen yn ngafael llaw arw'i thad, ei wyneb yn llyfn yn ymyl gerwinder y llall.

Credu taw'r Terry 'na yw 'i thad hi.

Ond yn ol arfer yr amser trefnwyd iddi briodi tywysog arall gan ei thad.

Y creadur hoffus a phell.' "Welis i 'rioed ddim byd yn bell ynddo fo.' 'Roedd Lleucu'n barod i amddiffyn ei thad-yng- nghyfraith i'r eithaf, ac 'roedd Sioned yn falch o'i chlywed yn gwneud hynny.

Wrth weld 'y fath olwg ddiafolaidd anifeilaidd' ar ei thad, teimlai Winni fel 'ei lindagu a gwasgu ei gnawd nes byddai yn sitrws fel tatws drwg wedi eu berwi i foch' (Haul a Drycin).

Amlygir hynny yng nghwpled Siôn Mawddwy sy'n tanlinellu'r cyd-fyw diddan rhwng gŵr a gwraig a thad a mam dan yr un gronglwyd.

Gyda'i llygaid mawr llwydlas a'i chroen golau clir, mynnai ei chymdoges Mestres Sienet Watcyn, Ysgubor Fawr, a'i hadnabu ers ei genedigaeth, bod merch yr hen Sgweiar yn ferch ddeniadol tu hwnt, yn hynod o debyg i'w thad o ran cymeriad yn ogystal a phryd a gwedd.

Clywed sgwrs Pwal y porthmon a'i thad-cu Thomas Pritchard, oedd wedi achosi ei gofid.

Yr hyn a barodd y gofid mwyaf i Elisabeth ai thad-cu oedd bod byddin y Senedd yn cyrchi i Frycheiniog am fod Brenhinwyr Dyffryn Wysg yn bygwth codi a chipio Aberrhonddu.

Pan ddaeth ati ei hun gwelai belen wen gwallt ac wyneb pryderus ei thad yn plygu drosti ac yn dal ei phen yn ei ddwylo a chlywai ei lais o bell: 'Fy seren, o fy seren!

Arni hi yr oedd y bai i gyd, arni hi a'r dymer wyllt honno a etifeddodd gan hynafiaid Ffrengig ei thad, meddai ei mam.

Yr oedd ei thad yn 'rhyw berthynas i Twm o'r Nant' ac wedi bod yn cystadlu prydyddu difyfyr ag ef, ac yr oedd hithau wedi gwrando ar anterliwdiau Twm ddigon o weithiau i allu dyfynnu llinellau ohonynt pan oedd dros ei phedwar ugain.

Fedrai hi ddim ffonio Mos ac roedd ei mam a'i thad yn bwrw'r Sul yn Llundain.

Am ryw reswm, mae ei thad yn gadael y rhan helaethaf o'i eiddo iddi hi a hynny yn codi gwrychyn ei mam, sydd yn achosi i CJ i symud i fyw at ei sboner.

Ei chartref hi oedd y lle nawr, mae'n wir, ond ei thad fu'n gyfrifol am werthu'r lle i Nic yn y lle cyntaf.

Roedd ei thad-cu wedi ei rhybuddio fod porthmyn tueddu i orliwio pan fyddent yn adrodd newyddion.

Ffodd Melangell i Gymru er mwyn osgoi priodas a drefnwyd gan ei thad yn Iwerddon.

'Doedd Rhian ddim yn rhy hapus ar ôl darganfod fod Reg yn ffrindiau agos gyda Doreen a surodd ei pherthynas hi a'i thad.

Yma y cai Elisabeth gyfle i hel atgofion a breuddwydio ac i fwynhau ychydig o ryddid oddi wrth y dyletswyddau teuluol oedd wedi dod yn rhan o'i bywyd ers claddu ei thad, yr yswain Richard Games.

Yna'n sydyn sylweddolodd faint ei dibyniaeth ar ei thad.

Efallai na fyddai ei thad yn caniata/ u iddo fynd yn ddigon agos ati i sgwrsio â hi, ond o leiaf, gallai edrych arni o hirbell ar draws y stafell.

'Roedd wedi ei gwisgo mewn siwt felfed, glas tywyll o'i gwaith ei hun, gan mai teilwres oedd, yn dysgu'r grefft gan ei thad.

Roedd ei thad-cu wedi ei holi am newyddion am gyflwr y wlad.

Prynodd ei thad lond lle o fefus imi.

Ar ffurf dyddiadur cawn ddilyn helyntion CJ yn ystod y flwyddyn mae'n colli ei thad yn ddisymwth.

Yn hytrach nag eiriol ar y santes yn enw'i chariad, y mae Dafydd ap Gwilym yn eiriol arni yn enw'i thad, Brychan.

Ond pwysicach na hynny oll, roedd ganddi hi, fel yntau, ei nwydau; merch ei thad oedd, a thuedd ei nwyd hi oedd dianc rhag disgyblaeth.

Beth pe bai ei thad wedi byw i weld yr erthygl a'r lluniau hynny?

'Roedd ei thad a hithau i ddod i Dyddyn Bach ar y pymthegfed i wneud trefniadau at y briodas a oedd i gael ei chynnal cyn diwedd y mis.

Gadawyd fy mam ar ol ar aelwyd y Thomasiaid am fod ei thad yn ei beio hi am yr amser difrifol o galed a gawsai ei mam wrth ei geni hi.

Chwarddai yntau'n oddefgar am ben ei phrotestio brwd a cheisio'i thawelu fel y gostegai ei thad bystylad ebol mynydd.

OHERWYDD digwyddiadau cyffrous y noson gofiadwy heno - ei breuddwyd ryfedd, ei phrofiadau unwaith eto o agosrwydd ei thad ac ymdrech Owen Jones druan i fynd at ei Arglwydd - am i'r pethau hyn ei chynhyrfu, bu llythyr Hannah'n ddigalondid ychwanegol.

Ac yn olaf, daeth rhyw wag ysgwyd llaw â thad ei blant, dileu 'Hilberson' ac ychwanegu 'Hilda'.

Roedd ei thad wedi gwneud hynny, felly pam na allai hithau, Carol, y debycaf i'w thad o ran pryd a gwedd os nad mewn anian, wneud hynny hefyd?

Cydiodd ei thad am ei hysgwyddau.

Pensaer oedd ei thad hi.

Yn wir, yr oedd ei thad, Brychan Brycheiniog, o dras Wyddelig.

Iaith ysgrythur sydd mewn llawer datganiad ganddo, er enghraifft: "Y Duw-Greawdwr, y Tad tragwyddol a Thad ein Harglwydd Iesu Grist yw'r Duw y mae'n rhaid i ni ei addoli.

Cefais sgwrs fer gyda'i thad mewn Tsineag.

Mae mam yn rhywle gan bob un o'r bechgyn hyn - a thad, a chwiorydd, a brodyr - wedi colli, mae'n dra sicr, lawer deigryn ers pan adawsant eu cartref - wedi treulio llawer noswaith heb gysgu.

Dechreuodd, gan ddilyn esiampl ei thad yn rhoi cynulleidfa yn y cywair priodol cyn dechrau siarad, trwy ddweud mai pleser oedd bod ar yr un llwyfan â mab Tom Ellis a Mab OM Edwards.

Wir ichi, fe fydd yn dda 'da fi weld rhyw enaid byw ar wahan i ddafad yn pasio heibio lan y feidir 'ma to!' Mor harti yr hebryngai'i thad y pwrcaswr at y dwrs, ac fel roedd ei mam yn ei ystlysu ac yn ei eilio bob cam i'r rhiniog!

Clywsom am ei wraig a'i dri phlentyn Peter, Julie Ann a Marie - Marie yr ieuengaf yn gannwyll llygad ei thad.

Gwnaeth Anna nodiadau cyflym yn ei phen ac yn fuan, trwy hynawsedd agored Cathy, roedd yn gwybod cyflymder y cwch, lleoliad popeth o bwys a hyd yn oed pwy fyddai'n arfer criwio i'w thad.

Mae'n ddiddorol mai Rhiannon Evans oedd yn gyfrifol am y tlws gan i'w thad, y diweddar Athro Jac L.

Yn un peth, fe ddechreuodd wherthin llai, ond plentyn 'i mam oedd hi wedi bod eriod, achos roedd 'i thad wedi marw cyn iddi hi ddechre'r ysgol, ac ma'n rhaid 'i bod hi'n gwbod bo'i mam yn colli tir wythnose cyn iddi farw, yn enwedig gan iddi hi gal ergyd ysgafn ar 'i chalon yr union wythnos y daeth Madog i'r pentre.