Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thaflu

thaflu

Wel, mae gen i fol, dydw i ddim yn ffit ac mi fedrai ollwng pêl sy'n cael ei thaflu ataf i.

Dywedodd fy mam wrthyf drannoeth fod rhyw dderyn wedi dweud wrthi am y digwyddiad.Euthum i ddawns yn y Cei unwaith.Roedd fy ffrind, Twm Fowey House (y Dr Thomas Gwilym Jones, un o benaethiaid Lever Brothers Port Sunlight wedyn) yn fy nghynorthwyo i smyglo fy siwt orau o'r ty wrth i mi ei thaflu o ffenestr y garet i lawr ato ac yntau yn sefyll ar yr allt wrth dalcen y ty.

Ymgyrch y swffragetiaid yn dwysáu; Sylvia Pankhurst yn ymprydio, Emmeline Pankhurst yn cael ei chyhuddo o ymosod â bom ar gartref Lloyd George ac Emily Wilding Davison yn cael ei lladd wedi iddi ei thaflu ei hun dan draed ceffyl y Brenin yn y Derby.

Cododd hi ar ei ysgwydd heb drafferth ac yna ei thaflu i dy ôl y fen.

Ond roedd yn ddigon diogel i fynd heibio'n ddidaro a thaflu cip cyflym.

Gollyngodd Andrews y ffôn yn sydyn a thaflu'r car o amgylch cornel sydyn.

Mi ddaru Defi John a Jim ddechra' chwara'n wirion ymhen dipyn, ar ôl blino bod yn llonydd - a thaflu cregyn bach aton ni a ninna wedi cau'n llygaid, smalio cysgu.

Trodd y cornel i Ffordd Pen-nant a bu bron iddo gael ei thaflu ar ei chefn gan ddau fachgen yn sglefrio heibio.

Bryd hynny yr oedd Sinn Fein am ddisodli'r Blaid Wyddelig fel erfyn gwleidyddol y mudiad cenedlaethol; y Cynghrair Gwyddeleg yn ymdynghedu i edfryd yr iaith Wyddeleg; y Gymdeithas Wyddelig Athletaidd yn trefnu chwaraeon traddodiadol Gwyddelig; y Mudiad Cydweithredol Amaethyddol, y Mudiad Undebau Llafur dan arweiniad rai fel Connolly, y theatr, y cwbl yn rhannau o'r Mudiad Cenedlaethdol - heb sôn am yr l.RB Yr oedd y rhwyd wedi ei thaflu mor eang fel nad oedd angen i ŵr ifanc wneud mwy na mwynhau chwarae bando (...) ar brynhawn Sul, ac yr oedd wedi ei dynnu i fewn i'r mudiad.

Yr ail beth oedd ymateb yr ymgeisydd i bêl rygbi a gâi ei thaflu ato fel y cerddai i mewn drwy'r drws i'r cyfweliad.

Ond wrth ddisgrifio Penri fel 'Anabaptist' yr oedd Nashe naill ai'n siarad ar ei gyfer neu'n defnyddio'r gair fel un garreg arall i'w thaflu at Penri.

Efallai ei fod o'n iawn i chwaraewyr rygbi blewog ruthro ar ei hyd a'i led ond doedd o ddim yn gweddu gystal ar gyfer y rhai hynny sy'n cicio yn hytrach na thaflu pêl at ei gilydd.

Ymgyrch y swffragetiaid yn dwysáu; Sylvia Pankhurst yn ymprydio, Emmeline Pankhurst yn cael ei chyhuddo o ymosod â bom ar gartref Lloyd George ac Emily Wilding Davison yn cael ei lladd wedi iddi ei thaflu ei hun dan draed ceffyl y Brenin yn y Derby.

Cydies yn y sosban, a honno'n poeri saim dros y carped a'r llawr, a'i thaflu allan drwy ddrws y cefn; yna rhwygo'r llenni oddi ar y ffenest, a'u stwffio o dan y tap dwr.

Datblygodd y ddameg hon eto gan ragweld rhywrai yn ei feirniadu, a 'thaflu'r ffefryn i'r pydew am iddo fentro rhoi côt gostus yn ôl iddo, eithr, 'pwy a ŵyr, fe all y "Joseff" hwn rywbryd dalu'n ôl ar ei ganfed pan fo dlawd arnom'.

Ymysg yr enillwyr o Benmynydd oedd Dilwyn Owen a Dylan Jones am Baratoi Oen at gylch sioe; Arwel Jones a Medwyn Roberts am wneud crempog (a'i thaflu!!); Paul Parry ac Ann Williams am addurno drwm olew, Arwel Jones ac Aled Pennant am wneud cenel i gi, ac unwaith eto eleni, eu tim dawnsio gwerin.

Byddai Miss Jones yn aros yn y fan gysegredig hon ac yn tynnu deilen brifet o'r gwrych, rhoi cusan iddi ac yna ei thaflu'n ôl i ardd yr Arolygydd.

Peidiwch a thaflu carag i mewn i'r twll neu cewch eich taflyd ochor arall.

Doedd o ddim yn edrych i ble roedd o'n mynd ac fe gerddodd yn galed yn erbyn y ferch gan ei thaflu i'r llawr bron.