Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thalu

thalu

"Ble'r aeth eira llynedd?" fydd Mam yn ei ddweud pan fydd y gacen siocled wedi diflannu i gyd a neb yn gwybod i ble!' 'Ie,' torrodd Delwyn ar fy nhraws a "Caws o fola ci% fydd hi'n ei ddweud pan ofynna i iddi am arian i brynu hufen iâ, ac addo'i thalu'n ôl yr wythnos wedyn.'

Ceir enghraifft o hyn yn y cymal sy'n son am 'Political Levy%; mae'n ffaith ers blynyddoedd fod gan bob aelod o bob Undeb yr hawl i beidio a thalu y 'Levy' yma.

Rhaid oedd cytuno a'r ficer pan ddwedodd e ma rhodd o'r galon oedd hon ac y gellid codi eglwys newydd, bron, gyda'r arian - codi wal newydd sbon o gwmpas y fynwent, a thalu i ddyn am ofalu ar ol y bedde.

Hysbysebodd yn y papur lleol am griwyr a thalu deg doler yr un i gant ohonyn nhw am wylio'r math o ffilm a elwir yn 'tear jerker' þ prociwr dagrau, os mynnwcy chi.

Cafodd almanaciau a cherddi ar goel gan John Jones yr argraffydd yn Llanrwst, ond ni fethodd â thalu amdanynt wedi hynny.

Sonnid felly am waith y tri arall yn peidio a thalu, fel y dywedir bod dau a dau yn bedwar, heb ddisgwyl iddynt fod yn ddim arall.

Yn wir, cymaint oedd ei ymroddiad yn ei faes a'i bwnc fel y cyflwynai bedwar os nad chwe llyfr newydd, a oedd yn cynnwys rhagor o luniau o'i waith, i bob myfyriwr ar gychwyn ei gwrs, a'r gost i gyd yn cael ei thalu ganddo ef ei hun.

Y rhyfeddod arall ydi iddo ddadfytholegu oes aur y wasg Gymreig a thalu teyrnged iddi yr yn pryd.

Yna dywed ei hanes yn mynd i'r farchnad gyda'r Capten i brynu bwyd a'r Capten yn bargeinio gyda'r cigydd faint i dalu am ben dafad a thalu deg ceiniog am hwnnw.

Yn hytrach na mynd at y gwneuthurwr a thalu drwy'ch trwyn, gwell mynd i ganolfan datgymalu ceir gyda'r mesuriadau, a thalu llawer yn llai.

Yn ychwanegol at hynny câi ei thalu am ei gwaith fel howsgipar yn Nhyddyn Bach, ond yr oedd ar Siôn Elias rai wythnosau o gyflog iddi.

Prynodd þd a gwenith yn un o siopau'r dre i'w rhoi yn y cyntedd, a thalu drwy'i thrwyn amdanynt.

Nid yw'r tyddyn yn cynnal tenantiaid a thalu'r rhent y mae ei angen er mwyn cadw merched y Gŵr yn y dref.

Cawsant ddirwy drom a phenderfynodd Rhys na fyddai yn ei thalu.

Treulio'r bore gyda Janet yn llenwi'r ffurflen Dreth ar Werth a thalu biliau.

Gallai Cela Trams redeg y lle, a thalu cyfran go dda o'r elw i'r Trysorlys: byddai hynny'n siŵr o ennill cefnogaeth y Canghellor a hawdd fyddai darbwyllo'r bobl y byddai N'Og mor gyfoethog o hyn ymlaen fel y gallai pawb wledda ar fwydydd llawer mwy blasus a maethlon na wynwyn.

Carasai weld ei holl denantiaid yn troi allan yn dda a pharchus os medrent wneud hynny a thalu'r rhent yn brydlon.

Wrth gwrs, os dymuna'r gyrrwr ddadlau'r mater, caiff beidio â thalu yn y fan a'r lle a dewis ymladd yr achos mewn llys barn þ hawl sy'n bodoli eisoes, fel y gwyddys.