Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tharo

tharo

Ydych chi am ffilmio'r plismon yn ymosod ar berson du, neu ydych chi am ffilmio'r hen wraig yn cael ei tharo gan ddyn sy'n digwydd bod yn groenddu?

Yn ôl Meddygon Myddfai un ffordd i wella'r ddannodd oedd rhoi hoelen o dan y dant poenus cyn ei tharo i dderwen.

Winciodd a tharo'i bac ar ei ysgwydd, gan ddweud wrthi am fynd i'r tū i weld a oedd y ffôn yn gweithio : âi yntau i'w fan i roi caniad iddi.

Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.

(Yno, fel y digwyddodd pethau, ar ymweliad â chartref Wil, fy mrawd, y cafodd Mam ei tharo'n wael.) Pan gyrhaeddais, roedd fy chwiorydd a'm brodyr yn y llofft o gylch y gwely, a Mam, druan, yn anymwybodol.

Gwylltiodd yntau'n gacwn a'i tharo.

Cafodd Jennifer ei tharo gan gar a oedd wedi cael ei ddwyn.

...coedwigwr praff yn dethol pren Tyrd ataf; cân â'th fwyell rybudd dwys A tharo unwaith, ddwywaith, nes bod cen Yn tasgu, a'r ceinciau'n crynu, a chrymu'u pwys; Dadwreiddia fi o'r ddaear, cyn y daw Ffwrneiswaith y golosgwyr acw draw.

Byd chwarae a tharo weithiau a byd rhyfeddu at bopeth byw.

Y canlyniad fu i'r llyw rhydd droi mewn cylch a tharo corff y llong a niweidio'r platiau a hynny yn gwneud i'r llong gymryd dwr.

Ynddo roedd nodyn yn ymddiheuro am "fenthyca'r car" ac unrhyw drafferth a achoswyd o ganlyniad, ond roedd cariad y gūr a sgrifennodd y nodyn wedi ei tharo'n wael ac yntau wedi gorfod ei rhuthro i'r ysbyty yn y car agosaf.

"Ches i ddim fy lladd gan y siarc, a dydech chwithau ddim am gael cyfle i'm mygu i farwolaeth chwaith!" gwaeddodd, gan gicio eto a tharo yn eu herbyn.

'Roedd ganddi hances boced fawr, ac os oedd un o'r merched yn chwerthin yn y capel, byddai'n ei tharo'n galed efo'r hances.

Aeth pethau o ddrwg i waeth rhwng Teg a Cassie a bu bron i Cassie golli'r babi pan wnaeth Teg ei tharo.

Weithiau fel yn Reykjavik fe ddaw si o'r cyfarfodydd fod bargen anhygoel ar fin ei tharo, sef y byddai'r ddwy wlad yn cytuno i gael gwared ar arfau niwclear o bob lliw a llun o fewn deng mlynedd.

Camodd dros yr Heddwas a tharo'i phen i mewn i ddrws y siop lysiau ar gornel y sgwâr.

Yn ei dymer, meddai, roedd wedi ei tharo yn ei cheg nes tynnu gwaed.

Yn sydyn, cododd Medrawd a tharo'r gong i alw ar y gweision.

Holodd Mark Waters Ali'n fanwl a'i fersiwn ef o'r hyn a ddigwyddodd oedd fod Mary ac ef wedi cweryla y bore hwnnw a'i fod wedi ei tharo.

Gwell oedd ganddi lymeitian wrth y bar a tharo sgwrs efo teithwyr eraill.

Cofiaf un ferch yn cael ei tharo gan fws.

Ond ni welaist ef ac felly fe gerddaist yn syth yn dy flaen a tharo dy ben yn erbyn y llafn.

Deuai'r rhan fwyaf o'r sŵn o un o'r ddwy stafell, yn weiddi a chwerthin a hynny'n gymysg ag ambell bwt o gân yn cael ei tharo mewn gobaith a chlecian achlysurol dominôs ar fwrdd.