Rhywbeth yr oedd gan Emli ddigon ohono, mae'n fwy na thebyg.
Abwyd i'r fwyalchen a'i thebyg yw cnwd ffrwyth y ddraenen wen er enghraifft, ond nid felly yr hedyn yn ei ganol.
"Mae llawer o'r merched sy'n gwneud hyn yn sâl, yn diodde' fwy na thebyg o broblem seiciatrig.
A'r peth y mae'n ei olygu wrth "godly perons" yw Piwritaniaid - Annibynwyr mwy na thebyg!
Yn ffodus, ac oherwydd pwysau cyson a pharhaol o du'r undebau amaethyddol, mae'n fwy na thebyg y caiff gwaharddiad parhaol ar yr hormon yma gael ei gyflwyno maes o law.
Mwy na thebyg i'r mab ddysgu llawer iawn am beirianwaith oddi wrth y tad ac iddo ddefnyddio'r wybodaeth hon wrth iddo sefydlu ym Mhorth Tywyn.
Anodd dweud erbyn hyn beth oedd bwriad Iorwerth Glan Aled wrth ei sgrifennu, ac er ei bod yn ddigon actadwy, anodd dweud faint o actio a fu arni, ond dyma'r gwaith, yn fwy na thebyg, a sbardunodd Robert Jones Derfel i sgrifennu ei ddychan ar ffurf drama â'r teitl Brad y Llyfrau Gleision.
A thebyg bod y cyfieithydd ar y pryd wedi deall hynny.
Gallasai fod wedi mynd efo ni yn y modur, ond buasai hynny'n golygu cyrraedd yn hwyr, yn fwy na thebyg, felly, cerdded wnai hi.
'Dwy, mwy na thebyg.'
Y diwrnod y symudwyd i mewn i'r tŷ clywodd ef ddau hen ŵr yn siarad â'i gilydd, un yn gofyn i'r llall 'Sgwn i pwy sy'n dod i fyw yn y tŷ hwn?' a'r llall yn ateb 'Saeson mwy na thebyg'.
Doedd dim byd newydd yn y stori; roedd Lloyd wedi clywed ei thebyg, a'i gwell, droeon o'r blaen, a gan mai ychydig o destun sbort a welai ef mewn ymddygiad meddwon, beth bynnag, roedd wedi hen golli diddordeb ynddi.
Ac er ei bod hi'n fwy na thebyg fod Elsie Williams, oedd yn gwybod hanes pawb yn y pentref, yn gwybod yn iawn na fyddai Elfed a Delyth yn mynd allan yn rhyw aml iawn, eto fe allen nhw fod wedi trefnu rhywbeth at y nos Sadwrn arbennig yma am y gwyddai hi.
Gymra fy llw na choda fo ddim oddi wrth y bwrdd am y gweddill o'i oes, a mwy na thebyg y bydda fo farw o newyn yn y diwadd.
Roedd Madog yn mynd i Lunden unwaith y mis, ynglŷn a'r holl deipio, fwy na thebyg, ac fe ddychwelodd un tro a'r peth odia welsoch chi gydag e - cerflun anferth ohono fe'i hunan.
Gan fod cerddi'r beirdd proffesiynol yn cael eu datgan i gyfeiliant telyn neu grwth (mewn dull y collasom ni yn llwyr ei gyfrinach), fe ffurfiai'r beirdd ynghyd â'r telynorion a'r crythorion un dosbarth o wŷr wrth gerdd, a thebyg fod y cyfarwyddiaid - y gwŷr a adroddai'r hen chwedlau - hwythau'n perthyn i'r dosbarth hwn tra parhaent.
Hi oedd ein hathrawes Ysgol Sul, athrawes Ysgol Sul na fu ei thebyg na chynt na chwedyn.
Yn eu rhagymadroddion a'u cyflwyniadau gadawodd y dyneiddwyr inni gorff o ysgrifennu, yn Gymraeg ac yn Lladin, sy'n allwedd, na cheir mo'i thebyg mewn cyfnodau eraill, i ddeall meddwl a chalon cyfnod.
Be 'di'r iws iti l'nhau dy ddannadd mewn rhyw fynwant o le fel acw na weldi neb ond Betsan Tyrchwr a'i thebyg o un pen blwyddyn i'r llall?
Dywed mai y gemau hyn, mwy na thebyg, fydd ei gemau paralympaidd ola hi, ond mi fydd hi'n cynrychioli Cymru yng ngemau'r Gymanwlad ymhen dwy flynedd.
Rwyn credu taw un o'r ddau Scott fydd e - Scott Gibbs mwy na thebyg, meddai Gareth.
Ond roedd pob stori'n gelwydd, fwy na thebyg.
Mwy na thebyg i Bowser gael ei ddylanwadu gan ffrindiau iddo o ardal Llanelli a Chydweli lle'r oedd y diwydiant glo yn ei anterth ymhell cyn i Bowser ddod i lawr.