Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

theimlai

theimlai

Gadawyd Enlli wedyn am hydoedd a theimlai y byddai unrhyw beth yn well na thawelwch llethol y gell unig.

`Gyda phleser,' ebe Harri, `ond i chwi fod yn gyfrifol i mi am ganpunt os digwyddiff rhwbeth iddo.' `Dim peryg,' ebe'r Yswain, ac ychwanegodd, `ond tyrd dy hun efo ni, mi fydd yn dda gen i dy weld yn y cwmni.' Diolchodd Harri iddo, a theimlai yn hynod o hapus fod ei feistr tir wedi ei wahodd i ymuno â'r boneddigion oedd yn myned ar ôl y cŵn ddydd Llun, ac ni wnaeth efe ddim arall bron hyd y dydd penodedig ond ei daclu ei hun a'i geffyl ar gyfer yr amgylchiad.

Nid oedd yn rhaid i'w lygaid duon ei hanwesu ac i'w gyhyrau wingo dan ei groen tywyll pan fyddai'n rhwydo na theimlai hi ei gwaed yn byrlymu yn ei gwythiennau a'i chalon yn chwyddo.

Ni theimlai'r fam ar ei chalon olchi, na gwneud dim arall, ac aeth i fyny yn y prynhawn i Twnt i'r Mynydd.

Roedden nhw wedi teithio'r holl ffordd o Lundain yn y car, a theimlai'r pedwar dipyn yn flinedig.

Er fod ganddo gysylltiad â'r dref, ni chynhwyswyd Paul Davies, a theimlai ei hun yn un o bobl yr ymylon.

A theimlai mai'r peth priodol i gloi oedd tipyn o delynegu.

Trawodd ef sawl gwaith yn erbyn y wal a theimlai ei ddwylo'n tynhau am y gwddf main bob tro.

Dowch, helpwch eich hun.' Mwynhâi Dan y bara' menyn a'r jam a'r bara brith yn fawr iawn, a theimlai'n newynog ar ôl ei ginio cynnar a brysiog.

Yr oedd tôn ei feirniadaeth yn ddigon gelyniaethus i'w hatal rhag cylchredeg hyd yn oed os na theimlai'r prelad y gallai eu gwahardd yn llwyr.

Jones, fe grewyd ...rhwydwaith mawr o gwynion yn erbyn eglwys a landlord a gwladwriaeth, a theimlai'r werin mai teulu'r tarddu o'r un gwreiddyn oedd y tri ac mai eu cynnal eu hunain yn erbyn llafurwr neu amaethwr oedd swydd waelodol y tri.

Cerddai fel dyn meddw a theimlai fel pe byddai ar syrthio i bwll o dywyllwch diwaelod.

Rhoddodd y Cyrnol ei ganiatad ond ni theimlai'n ffyddiog y byddai eu gofidiau drosodd ar ol cyrraedd yr efail.

"Samon ydi'n henw ni ar Roberts," meddai, "am ei fod o'n dwad o Nant Bach, lle da am samons." Roedd rhywbeth yn nhôn ei lais yn dweud wrthyf na theimlai'n garedig at yr athro, a soniais am y gurfa a gawsai'r bore hwnnw.

Rhywsut ni theimlai y byddai Rowland yn gwerthfawrogi hyn.

Roedd Rowland yn aros amdani pan ddaeth hi'n ôl wedi diosg ei mantell a'i het, a theimlai Meg bigiad o anniddigrwydd wrth sylwi ar ei wyneb di-wên.

Bwrdd i ddau oedd y bwrdd, ond nid eisteddai neb ar ei gyfer a theimlai yntau'n falch o hynny, iddo gael amser i gael ei draed tano.

Ni theimlai gymaint â hynny o golled ar ôl ei gyfeillion chwaith, hyd yn oed pan ddeallodd bod posibilrwydd y caent eu darganfod gan y fyddin Brydeinig.

Winciai'r goleuadau bach yn eu miloedd arno a theimlai ei du-mewn yn corddi.

Deuai llais Therosina drwy'r cyrn a theimlai Meic fel pe bai'r llais ybn meddiannu pob rhan o'i gorff.

Ni theimlai Harri awydd o gwbl am fynd, ac anogai Gwen ef i beidio â mynd ar un cyfrif.

Yr oedd y gwaith yn newydd iddo, a theimlai yn ofnus a swil yng nghanol y fath gwmni.

"Troi yn 'i unfan mae o?" Ni theimlai JR fod galw am iddo ateb cwestiwn rhetoregol o'r fath.

Roedd hyn yn arwydd da ond wedi'r holl anawsterau ni theimlai Rhian yn or-obeithiol.

'Ydach chi' Bron na theimlai Lisa ei fod yn ei chyffwrdd yn ymosod arni'n gorfforol.

Jolly fellow oedd yr Yswain, ac ni theimlai yn wrthwynebol i un o'i denantiaid feddu ceffyl tan gamp tra na fyddai ar ôl efo'i rent.