Gorweddodd ar ei hyn arno a theimlo fel brenin.
Diflannodd bron y cyfan o'r allanolion a'r digwyddiadau ategol arferol- diflannodd pob cymeriad arall am y rhan orau o'r hanes ond Sam ei hun a'r bodau lledrithiol y bu gyda hwynt Llwythir a gyrrir yr hanes â delwedd ar ôl delwedd, llun ar ôl llun, dyfalu ar ôl dyfalu, fel petai Tegla am gyrraedd pinaclau y profiadau mwyaf amhosibl eu dweud ac yn methu â theimlo ei fod yn ymdrechu digon.
Wnes i weld mwy nag un wyneb, a theimlo brad a theyrngarwch bron ar yr un pryd.
Ffordd arall o osod y peth fyddai dweud fod meddwl a theimlo ynddo mor glwm wrth ei gilydd ac mor angerddol fel yr oedd rhaid iddo weithredu arnynt ac wrthynt.
Ond hyd heddiw yr wyf yn ei theimlo'n anfantais na bawn wedi cael cwrs coleg cyflawn mewn athroniaeth oherwydd yr wyf yn ofnus iawn o hyd wrth drafod syniadau athronyddol...
Yng ngwir draddodiad roc a rôl fe gawn hanes y grwp yn ymweld a thy un o drigolion gwylltaf Caernarfon ac yn colli eu pennau mewn mwy nag un ystyr , gymaint âu bod yn...colli eu brên a theimlo fel ceffyl pren.
Anadlodd yn ddwfn wrth fynd trwy'r drws a theimlo'r heli'n pigo'i ysgyfaint.
Mi glywais y lleisiau a glywais yng Ngherrig Duon sawl tro wedyn mewn drama neu stori ar y radio a'r teledu, a theimlo mod i'n 'nabod cymeriadau Carreg Boeth (Hufen a Moch Bach) cystal â'r Parch.
Ymlaciodd hithau yn ei erbyn, a theimlo'i haelodau'n ymollwng fesul un wrth i'w anadlu dwfn arafu, a throi'n chwyrnu rheolaidd isel.
Nid pawb a wêl yr un neges na theimlo yr un ing a gwefr.
Cyfle arall i fi gochi hyd at wreiddie 'ngwallt--a theimlo'n dwp unwaith yn rhagor.
Fe'i trodd Hector yn ffranciau Ffrengig, a theimlo'n eithaf gwalch wrth wthio'r arian papur i'w waled at hynny a oedd yno eisoes.
A chan fy mod yn ysgrifennu'r geiriau hyn pan yw'r tanciau'n rhuthro ar draws Croatia a bomiau'n disgyn ar gartrefi, ysbytyau ac eglwysi yn y dalaith honno, ni allaf lai na theimlo pa mor argyfyngus yw'r galw arnom yn Ewrob i gefnu ar ryfel a thrais fel cyfryngau i ddatrys ein problemau.
Ar ôl cario'n bagiau dros y ffin anweledig o'r naill gar i'r llall, penderfynu gwneud darn i'r camera tra'n eistedd yn y sedd flaen er mwyn cofnodi'r rhwystredigaeth bersonol yr oeddwn i'n ei theimlo ac yn ei synhwyro'n barod mewn eraill.
Agorais ffenestr y coridor a theimlo'r gwynt yn oer.
Ni allai lai na theimlo'r cyffro yn cerdded drwy ei waed fel y meddyliai am eu darganfyddiad.
Er i rywun yn y cwmni weiddi ar i bawb sefyll yn ei unfan, dechreuodd hi chwalu'i ffordd drwy'r boblach gan faglu ar draws traed hwn a hon ac arall wrth iddi ei theimlo'i hun yn cael ei thynnu ato fel at fagnet.
Fel ysgolhaig ni allai beidio â theimlo oddi wrth yr her i esbonio eu natur eithriadol, a phan ystyriwn ei gefndir meddyliol ef a'i gyfnod, nid syn ydyw ei gael yn taro ar yr esboniad arbennig a gynigiodd.
Er hynny yr oedd ei phersonoliaeth i'w theimlo.
Gan fod Yr Ymofynnydd hefyd yn cyflawni swyddogaeth cylchgrawn hanes y mudiad, byddai bywgraffiad ambell arwr, fel Thomas Emlyn Thomas o Gribyn a Gwilym Marles, Llwyn, yn cael llenwi'r misolyn ac ni allai neb a ddarllenodd y rhain fethu â dilyn y thema ganolog a theimlo'r ergydion sylfaenol.
Roeddwn i'n mynd yn ddel a'r gwynt o'm tu a'm cyfeillion ar y lan yn llawn brwdfrydedd pan glywais glec, a theimlo rhywbeth yn taro un o'r tanciau.
Mae mwyafrif y cyffelybiaethau yn rhannau annatod o'r darlun ac yn ein galluogi i weld a chlywed a theimlo naws ac awyrgylch.