Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

theimlwn

theimlwn

Ni fynnwn er dim bod yn faich arnynt, ac er eu bod yn blant digon annwyl, ni theimlwn yn arbennig o agos atynt.

Ni theimlwn fod ganddo ef, na neb arall o'i griw, ATEBION gwrthrychol i ddadleuon rhai fel Guignebert a Spengler i mi ar y pryd.

Nid oedd gennyf ronyn o chwaeth at fasnach, ie yr oedd ynof wrthwynebiad mawr iddi; a theimlwn nad arnaf fi yr oedd y bai fy meistr Abel oedd wedi fy arwain i hyn, ac wedi creu ynof ddiflastod at fusnes a chyfeirio fy nhueddiadau at bethau eraill.

Ni theimlwn yn obeithiol y bydd y cynllun hwn yn arwyddo unrhyw gynnydd mawr yn yr adnoddau ar gyfer plant o fewn Cymorth i Fenywod yng Nghymru, ond croesawn unrhyw gam newydd sy'n cydnabod anghenion plant yn benodol.

"Here's a new boy for you, Mr Roberts," meddai'r sgŵl wrth athro'r dosbarth, a theimlwn eto lygaid y plant yn yr ystafell yn fy nhrywanu fel picellau.

Estynnais allan i gyrraedd ei llaw hi, a theimlwn hi'n gwthio pecyn bychan i'm llaw.

"Evans, mae gen i camp bed ichi ­ mi fydd dipyn yn well na chysgu ar y llawr." Diolchais iddo'n wresog, a theimlwn fy mod yn cael braint fawr o gael cysgu mewn gwely iawn amheuthun o beth mewn lle fel Shamshuipo.

Wrth gerdded ar ei ôl ar hyd yr ysgol, doeddwn i'n gweld neb, ond mi wyddwn fod llygaid degau o blant arnaf, a theimlwn fy wyneb yn llosgi'n dân gan swildod.

Un tro daeth bachgen ataf yn Sarn Bach, a theimlwn ei fod yn dymuno cael sgwrs.