Mae gwir angen esbonio paham y mae parch i'r llyfr hanes, sydd yn un o glasuron rhyddiaith y Gymraeg, ac ar yr un pryd paham y mae rhyw ddelwedd anhyfryd wedi dod lawr i ni o Theophilus Evans y dyn.
Y gwrthdaro rhwng y grefydd sefydledig a 'zel danbaid' y methodistiaid yw cefndir Merch y Sgweiar Bobi Jones a ymddangosodd yn Barn, gyda'i phortread byw o Theophilus Evans, ac aiff Elwyn L.
Dechreuodd yr þyl i mi gydag Arwel Gruffydd yn Hwyl Byw yn darlithio ar Theophilus Evans i ddosbarth o bobl yn eu harddegau.
Er ei fod yn sgrifennu o fewn cwmpas byr, y mae'n cywiro llawer o gamgymeriadau am fywyd Theophilus, ac yn ceisio unioni'r cam a gafodd trwy roi ystyriaeth i'w holl weithiau llenyddol a'i waith fel offeiriad cydwybodol.
Fel Theophilus ei hun y mae gwreiddiau'r Athro Jenkins yn sir Aberteifi, ond Brycheiniog oedd y winllan y bu Theophilus yn llafurio ynddi am ran helaeth o'i oes ac yn Llangamarch y mae wedi ei gladdu, a hynny heb fod nepell o faes y Brifwyl eleni.
Yr hyn sydd yn drawiadol yn yr ymdriniaeth yw fod Theophilus yn ymgysylltu â chymaint o Ymneilltuwyr a Methodistiaid ar hyd ei oes, er ei fod mor enwog fel gelyn anghymodlon iddynt.
Mae yma ymdriniaeth â llawer o bynciau mewn cwmpas byr, â gwaith Theophilus fel awdur a chyfieithydd, â'i ddawn fel chwedleuwr difyr a hoffus, â'i gredoau a'i weithgarwch fel eglwyswr, ac â'i wladgarwch Cymreig a Phrydeinig.
Mae esbonio'r traddodiad o Brydeindod yng Nghymru fel hyn yn gymorth i ddeall teithi meddwl Theophilus Evans a llawer o Gymry tebyg iddo yn y cyfmod modem cynnar.
Mae'r manylion achyddol a geir yma yn newydd, ac yn cadarnhau'r darlun o Theophilus fel gþr bonheddig, ac yn ei osod mewn cefndir bonheddig, ar hyd glannau Teifi, a oedd o hyd yn Gymraeg ei iaith a'i ddiwylliant ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg.
Mae'n rhoi ystyriaeth i holl lyfrau a chyfieithiadau Theophilus ochr yn ochr â'r enwog Ddrych, ac yn mynd y tu cefn i'r llyfrau i ganfod y dyn ei hun.
Gall y darllenydd weld fod llawer o'r pethau annymunol a awgrymid gynt am Theophilus yn codi am fod Anghydffurfwyr a Radicaliaid wedi creu myth a phropaganda anffafriol am yr Eglwys yn y ddeunawfed ganrif.
Radicalaidd-anghydffurfiol) o'r Eglwys yn y ddeunawfed ganrif, gan bortreadu Theophilus fel esiampl o fywiogrwydd eglwyswyr yn y cyinod hwnnw; mae'n mynd hefyd y tu hwnt i lawer o'n syniadaeth confensiynol ni a dangos sut oedd modd yn y cyfnod hwnnw gydblethu Cymreictod a Phrydeindod gydag arddeliad.