O hynny y treiddiai rhinwedd sydd bob amser yn ychwanegu'n anrhydeddus at ysblander, ac nid ystyrid bod gwreiddiau da a theulu cymeradwy ynddynt eu hunain yn ddigon oni ffynnai'r priodoleddau rhinweddol parhaol yr un pryd.
Mae Anne, y ferch, yn byw yn Llundain gyda'i theulu a Nicholas, y mab, yn brifathro yng Nghaerdydd.
Canfyddir yr un syniad o undod hefyd mewn cyfeiriadau at warchodaeth gwraig dros ei theulu neu feistres dros ei morynion neu fam dros ei phlant.
Gallai amddiffyn tŷ a theulu oddi wrth bob aflwydd ac yn aml gwneid croesau o fedw a cherddinen a'u gosod uwchben drysau tai.
A theulu Thomas Edward Lloyd, Coedmor, a theulu Cilbronne "Mae Lady Coedmor yn fenyw fawr er pan enillodd ei gŵr sedd Shir Aberteifi yn ôl i'r Tori%aid ddwy flynedd yn ôl a pheri'r fath syndod i bawb trwy fwrw E. M. Richards ma's!"
Ei hawydd hi i dreulio'r Nadolig efo'i theulu oedd achos y ffrae ond gwelai rŵan na allai fwynhau'r ŵyl heb ei gŵr.
Wedi'r cwbl, ef a'r bechgyn oedd ei theulu hi bellach.
Yn 1993 y symudodd Stacey i Gwmderi gyda gweddill ei theulu.
Yr adeg hyn, oedd dad a man yn cynnal ysgol Sul yn y tŷ ac yn gwadd y cymdogion, tri theulu, i ddod atom.
Roedd yna hyd yn oed wahoddiad i newyddiadurwyr gael swper gyda theulu Iddewig.
Y mae ein cydymdeimlad a'i briod Pam a Bethan y ferch, Mrs Landeg Williams ei fam, a Jennifer Alexander ei chwaer, a'i theulu yn ddwfn ac yn ddidwyll.
Ond wrth droi hanes ei theulu'n ffuglen (a chymryd ei bod hi'i hun yn cyfateb i Owen), fe wnaeth rai newidiadau digon diddorol.
Yno y magai yn ei siol ei theulu niferus o gathod bach ac y llenwai bocedi'i brat ag afalau prenglas o'r ardd anial.
Ddaru'r stori%wr ddim cynnig math o esboniad pam yr oedd ysbryd hollol Brydeinig, yn ôl pob golwg, yn cydgartrefu â theulu bach o Iraniaid, na chwaith pam roedd gwyrda o gred Foslemaidd, oedd yn credu mewn adenedigaeth, yn cymryd y fath ddiddordeb mewn ysbrydegaeth.
Roedd Thomas Parry'n gyfeillgar â theulu Tyddyn Bach, ac wedi bod yno'n clipio ceffylau un noson.
Mae Emma yn disgwyl a pha beth gwell na babi i ddod a theulu ynghyd?
Ond teneuo mae 'i theulu, a hynny'n gloi iawn.
Dim ond tridiau'r ŵyl roedd hi wedi bwriadu eu treulio gyda'i merch a'i theulu yng Nghasnewydd, ond wedyn, wrth gwrs, fe ddaliodd annwyd.
Roedd hi'n euog o adael ei gūr a'i theulu er mwyn cael encilio i fwthyn unig.
Doedd y rhan fwyaf o'r Palestiniaid ddim wedi derbyn mygydau nwy gan yr awdurdodau, ac un masg oedd gan Siwsan a'i theulu rhyngddyn nhw.
Doedd o byth wedi cael cyfle i gael sgwrs iawn efo Pegi, er i'w theulu fod i lawr yn diolch iddo'n ffurfiol.
Yr oedd y gweddill o'i theulu wedi symud i Aberdar yn un o gymoedd diwydiannol Morgannwg.
Roedden nhw'n aelodau ffyddlon o Noddfa, lle'r ymgasglodd ei theulu a'i ffrindiau i dalu teyrnged i un a ddylanwadodd yn fawr ar eu bywydau.
Ni thâl ach ddiledryw heb ddoniau cynhenid i'w hanrhydeddu, na theulu heb urddas y bywyd gwâr grasusol i'w gynnal, sef y gras cynhenid (grazia) a amlygid gan Castiglione yn ei Il Cortegiano.
Roedd yn rhaid iddi beidio a dangos ei gofid i'w theulu ac roedd yn ddigon tebyg ei bod yn gofidio heb achos.
Dyna ichwi ddeg ohonynt rwan heb denant na theulu, a mwy eto i ddwad wrth gwrs.
Dechreua'r hanesyn cyntaf yma gyda theulu mawr ym mhentref Tal-y-waun, sir Fynwy.
Gyda chymorth teiliwr lleol, daethon ni o hyd i'r fflat lle'r oedd Siwsan a'i theulu'n byw yn y diwedd.
Ni fedraf eu henwi i gyd, ond cofiaf am rai ohonynt: Barbara Llwyd, Myfanwy Morgan, Mrs Thomas y Fron Goch a'i theulu.
Ac mae para gyda theulu a ffrindiau da yn fraint uwchlaw dirnadaeth dyn...
Daeth tro mawr ar fyd Kath a'i theulu yn mis Gorffennaf 1999 pan enillodd Dyff arian mawr ar y loteri.