'Roedd y rhaglen gyntaf i gyflwyno'r pwnc, trwy gymharu cyfoeth a thlodi a thrwy gyflwyno y syniad o'r hyn sy'n normal - amgylchiadau a sefyllfaoedd y byddem ni yma yng Nghymru yn ystyried yn normal ond sy'n hollol wahanol i'r hyn a ystyrir yn normal yn y byd ar y cyfan yn nhermau incwm, tai, trafnidiaeth, hyd oes ac yn y blaen.
Lleihau urddas dyn a thlodi ei ddynoliaeth a wna'r agwedd hon at gymundodau dynol, ac i'r graddau y gwneir hyn y mae'n wrth-Gristnogol.
Adeiladwyd y Stiwt mewn cyfnod di-am iawn, amser o ddiweithdra a thlodi, gwaeth o lawer na heddiw.
Ac wylwch, wylwch, fy mhobl, tros ei wraig yn ei thlodi a'i galar a thros ei blant troednoeth, carpiog, yn nannedd y gwynt .
Ar yr un pryd, fe welir fod Ferrar yn ceisio adfeddiannu eiddo a aeth i ddwylo lleygwyr a'r eglwys wedi cael ei thlodi yn ei dyb ef oherwydd hynny.
Peryglus yw sentimentaleiddio - ynghlwm yn y gymdeithas gymwynasgar a chrefftus 'roedd y diciâu a thlodi a llafurio llethol.
Yng ngwledydd y Trydydd Byd mae'r cyferbyniad rhwng cyfoeth gwledydd y Gorllewin a thlodi'r De yn taro'r llygad dro ar ôl tro a pharhau o hyd y mae'r rhyfeddod o weld tystiolaeth ein ffordd wastraffus ni o fyw - can o Coke neu gar Mercedes wrth ochr pwmp dŵr cyntefig neu geffyl a chart.
Awdl sy'n cydymdeimlo â gwerin Cymru yn ei thlodi a'i dioddefaint yw hon, ac mae hi yn yr un traddodiad ag awdl anfuddugol Eifion Wyn ym 1900, 'Y Bugail', 'Gwerin Cymru', Crwys, ac awdl foliant Gwilym R. Tilsley i'r glêwr.