Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thomennydd

thomennydd

Mae hen geyrydd cyntefig yn y wlad yn ogystal, gyda thomennydd anferth o bridd a cherrig yn eu gwarchod.

At Fethesda y cyfeirir yn y cwpled agoriadol, wrth gwrs, a'r olygfa a gyflwynir ynddo yw honno o chwarel lechi Y Penrhyn yn un graith enfawr ar wyneb y mynydd, yn bonciau a thomennydd ar draws y lle ymhob man.

Gwelir hen adeiliadau, simneiau, a thomennydd gwastraff yn gysylltiedig â'r gweithfeydd glo a haearn a'r chwareli ym mhobman ar hyd a lled y wlad; ond, yn amlach na pheidio, mae'r hen longau hwyliau wedi pydru ers blynyddoedd yn y dŵ'r hallt, neu wedi cael eu dinistrio neu eu symud er mwyn gwneud lle mewn porthladdoedd.