Bu bron i'r bachgen â thorri allan i wylo.
Ni ddaw dim da o'i thorri ac ni ddylid dod â'r blodau i'r tŷ ar unrhyw gyfrif, gan y bydd marwolaeth yn y teulu yn fuan wedyn.
Yn wyth oed cafodd ddamwain a thorri ei glun, ond ni soniodd am y peth ar y pryd a gadawyd ef yn anabl am weddill ei oes.
Yn 'Teisi' mae dwy das mewn cadlas yn llenwi gofod y llun, un yn y canol, y llall wedi ei thorri yn ei hanner gan y ffrâm, ac ystol goch yn cydio'r ddwy.
Tynnodd Alun ei gyllell o'i boced a thorri'r lein.
Gydai ffrog wedii thorri o faner y Ddraig Goch, llwyddodd i ddod ag apêl secsi i'r Cynulliad tran cyfleu neges ddifrifol.
Un peth a nodwedda cymdeithasau o'r fath yma yn Rhydychen ydyw mai rhai bron a thorri ar eu traws am gael lle yn aelodau yn unig a dderbynnir i mewn; felly ni cheir lawer o aelodau cloff anghyson eu hymweliad.
Y noson yma roedden nhw wedi dod adre fel arfer; roedd o wedi agor y drws efo goriad fel arfer, ac roedd y ddau wedi cerdded i mewn i'r tŷ i glywed y sŵn malu a thorri mwyaf ofnadwy yn dod o'r gegin.
Cwestiwn ofynnwyd imi droeon ar ôl dechrau'r flwyddyn hon oedd ynglŷn â thorri'r lawnt yn y gaeaf.
'Mae serch yn gwneud anhrefn ar Drefnyddion': ydyw, ond 'mae'n well torri rheol na thorri calon'.
A phan fyddai hi wedi nadreddu ei ffordd heibio byddai'n chwith ar ol yr hogia fyddai wedi bod at eu ceseiliau, ac ambell dro at eu pennau, yn y ddaear yn ei thorri.
Gall hon gnoi a thorri drwy styllod llidiardau, trwy lwyni mewn gwrychoedd a thrwy netin cryf yn union fel pe defnyddid siswrn pwrpasol at y gwaith.
Carwn i chwi, y bobl sydd erioed wedi bod yn y gwaith, ddychmygu gweld stepan fflat wedi ei thorri allan o'r graig, ac yn y fan hyn, sef ponc, 'roedd y dynion yn gweithio.
Roedd ei lais yn ei thorri i'r byw.
Tua chanol nos trawyd y llyw gan foryn a thorri y postyn llyw yn agos i gorff y llong fel yr oedd yn amhosibl i'w llywio.
Roedd y lleuad yn llawn a'r wybren yn ddigwmwl wrth i'r llong adael y porthladd a thorri ei chŵys drwy'r môr agored a oedd, trwy drugaredd, fel llyn hwyaid y noson honno.
tonnau'n chwyddo yn y pellter fel mynyddoedd mawr symudol, ac yn nesu a thorri'n gesyg gwynion anferth a chlecian a chwalu ar y Maen Du.
Ni wybu ef beth oedd llwfrhau na thorri calon.
Ni ddylid dod â'r pren i'r tŷ ac ni ddylid ei losgi - yn wir, ni ddylid ei thorri o gwbl.
Os oedd coeden wedi gwella plentyn roedd rhaid bod yn wyliadwrus iawn rhag i rhywun ei thorri neu ni fyddai'r plentyn fyw fawr ddim wedyn.