Yn Llundain dechreuodd weithio fel cyfrifydd i fasnachwr a thra'r oedd yng ngwasanaeth y gŵr hwnnw bu ar fordaith i India'r Gorllewin.
Bu ffigurau cynulleidfaoedd teledu yn dda yn gyffredinol, gan adlewyrchu gallu cystadleuol cynnyrch BBC Cymru, a thra bo rhywfaint o bryder ynglyn â safle presennol BBC Radio Wales, mae arwyddion bod y penderfyniadau strategol, golygyddol a phroffesiynol cywir yn cael eu gwneud i adfywio'r orsaf.
Cymdeithasau cenedlaethol oedd y Cymdeithasau Taleithiol, cymdeithasau lleol oedd rhai'r Cymreigyddion; a thra denai'r Cymdeithasau Taleithiol eu cemogaeth yn bennaf o blith yr offeiriaid a haenau uchaf cymdeithas, roedd y Cymreigyddion yn fwy 'eciwmenaidd' yn grefyddol ac yn gymdeithasol.
Pan ddywedodd yr Iesu wrth y disgyblion i fod e'n mynd i baratoi lle iddynt, a'u bod nhw'n gwybod y ffordd, a'r lle 'roedd e'n mynd, a thra oedd y gweddill o'r disgyblion yn meddwl dros y peth, yn pwslo ac yn ceisio dyfalu beth i'w ddweud, Tomos oedd yr un, y very one a ddwedodd wrtho yn blwmp ac yn blaen nad oedden nhw ddim yn gwybod o gwbwl, y ffordd na'r lle.
A thra byddai un yn gweddio ar ei liniau, yr oedd pawb yn gweddio a'r lle yn llawn o 'Amen' ac 'Ie, ie!', yr hyn oedd yn swnio yn hynod o ryfedd i ni ar ôl cyfnod mor fawr o ddistawrwydd a chysgadrwydd gydag achos lesu Grist.
Yn sgîl y digwyddiadau crefyddol y daeth yr alwad am addysg fydol, a thra' roedd sylwedd un yn Gymraeg, roedd y llall yn hollol Seisnig.
Cawsom sgwrs dda - a thra yr aeth Randall i nôl peint i Syd Aaron cefais ddeng munud i sgwrsio gyda'r hen wariwr hwnnw.
A thra'i bod hi'n mynd i'r afael â chymlethdodau rhywiol a dinistriol Gudrun Brangwyn, canfu ei bod yn feichiog.
A thra mai sgert fer a nosweithiau hir yw natur Sheryl, pell iawn yw hyn o natur bywyd Lisa Victoria, sy'n wreiddiol o'r Rhondda ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Fe'm cyflwynodd i Tomi ac i ŵr Pen y bryn, a thra cydnabyddai ei genedl ei dyled iddo cydnabyddai yntau angen y rhai ifainc am gefnogaeth a chymorth a chalondid, megis pe bai'n barod, nage yn awyddus, i fyw drachefn yn y genhedlaeth newydd gynyrfiadau creu.
Iawn, mae'n hollol amlwg ers tro byd bod Dafydd Êl wedi hen flino ar 'frwydr yr iaith'. Brwydrau pobl eraill ar draws y byd dros ryddid a chyfiawnder -- dim problem; rhaid yn wir iddo ddangos cefnogaeth (darllener ei genadaethau eangfrydig a thrawswladol yn ei golofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg). Ond, jyst am fod Dafydd Êl wedi penderfynu ei fod am optio allan o'r broses drafferthus honno o greu trefn newydd yng Nghymru a 'hyrwyddo' chwyldro yn hytrach na bocsys te dwyieithog, yna does bosib bod disgwyl i'r gweddill ohonom lyncu gweledigaethau ffantasïol a thra cyfnewidiol y cyn-gefnogwr streiciau dros hawliau gweithwyr a chym-unedau a symudiadau ymgyrchol/protestgar cyffelyb.
Darfu hynny wella dim ar ei dempar o, a thra oedd o yn trio tawelu'r ddau yrrwr ac edrach faint o dolciau oedd yn eu cerbydau nhw, mi gefais gyfla i'w gwadnu hi odd'no.
A thra yr oedd hyn oll yn digwydd beth oeddan nhw yn ei wneud yn y senedd fawr yn Llundain? Ffraeo ynglyn â faint o arian ddylair lluoedd arfog eu cael am anfon hofrenyddion yno i helpu.
A thra byddi di yn Llechfaen dros ddiwedd yr wsnos, cadw dy glustia a'th lygaid yn agored.
A thra bo hunan-hyder ar gynnydd mewn merched y mae ar drai ymhlith dynion.
Wedi cynnig ei wasanaeth, a thra'n disgwyl am long, prysurodd ymlaen â'r gwaith enfawr o aildrefnu perllannau a gerddi yr hen Blas ac ailhau y lawntiau a'r porfeydd, yn ogystal â phlannu rhai miloedd o goed i gysgodi a harddu'r lle.
Er mai'r Brenin, ar un olwg, yw'r darn pwysicaf ar y bwrdd - fel darn i ymosod ac amddiffyn mae'n ddiwerth bron, a thra bo'n sefyll rhwng y ddau Gastell yn y rhes gefn, nid yw'n ddim ond rhwystr ichi ddefnyddio eich Cestyll yn effeithiol.
Mae gan Gaerdydd bum blaenwr yn barod a thra bod y clwb wedi mynnu dro a thro na fyddan nhw'n gwerthu eu prif sgoriwr y tymor hwn - Robert Earnshaw - mae'n bosib y byddan nhw'n fwy parod i Leo Fortune-West, Kevin Nugent, Paul Brayson neu Kurt Nogan adael.
Ffugio bod yn fyddar ac yn ddwl a gwrando ar bob si yn y fangre dlodaidd honno!" "A thra byddi di yno, Gwgon, mi fydda' innau yn gyrru'r ias i gerdded ac yn dilyn trywydd yr amserau." "Siort ora' Elystan, ond wnawn ni'n dau byth sbi%wyr fel Cellan Ddu.
Ym Mangor penderfynodd y Frigad Dân ddefnyddio eu hysgolion i annog y cyhoedd i gyfrannu at fwcedi Pudsey a thra eu bod nhw'n dringo, roedd gweithwyr archfarchnad KwikSave yn y ddinas yn gwisgo dillad hanesyddol lliwgar i berswadio cwsmeriaid i gyfrannu ychydig o geiniogau at yr achos.
A thra cadwem ni'n sefyll, bron llewygu o eisiau bwyd, âi nifer o'r gwarcheidwaid i chwilio trwy bob cwt yn fanwl.
A thra deil i chwilio fe fydd ysbryd yn tarfu ar bawb sy'n byw ym Mhlas Madyn.
A thra oedd Jock a minnau'n dygnu arni yng ngwres llethol y prynhawn, ac yn chwythu mwg fel dwy injian drên ni allem lai na dyfalu ar ba antur y bu 'Gwep Babi' trwy gydol y bore.
Byddai'r goets yn aros wrth y Bont Fawr yn Llanrwst a thra byddai osleriaid yr Eagles yn newid y ceffylau, byddai rhai o'r boneddigion yn taflu arian i'r afon a byddai Twm yn neidio i'r gwaelod i'w codi.