Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thraddodiad

thraddodiad

Pe bai'r gosodiadau'n gywir, anodd fyddai i neb ddywedyd i'ch erbyn, ond camsyniad sylfaenol eich dadl ydyw anwybyddu'r gwahaniaeth hanfodol rhwng traddodiad byw a thraddodiad marw, a marw hollol ydyw'r traddodiad Pabyddol yng Nghymru.

Am y bardd, roedd ganddo ef hynafiaid wrth y llath, gyda thraddodiad hir a disgyblaeth fanwl yn gefn iddo.

Magwyd Richard Davies, mae'n amlwg, yn awyrgylch a thraddodiad yr uchelwyr o barch tuag at leynddiaeth gynhenid Cynru a diddordeb mawr ynddi, megis rhai eraill o gyfieithwyr beiblaidd ei gyfnod; a William Salesbury, William Morgan, a John Davies, Mallwyd, yn eu plith.

I Gymru, mae'n brawf pendant y gall ei thraddodiad dawns sefyll ysgwydd yn ysgwydd â thraddodiad unrhyw wlad dan haul.

Mae Cwmni Gwerin Pont-y-Pwl yn ceisio cadw'n fyw diwylliant a thraddodiad dawnsio mewn arddangosfeydd, twmpathau a gwyliau gwerin.

Ceisiai adnewyddu ffydd ei bobl trwy bregethu efengyl a darddai o'i thraddodiad ei hun: cyhoeddai gyflawniad yr amser a'i egluro trwy sôn am y gobaith yn ysgrythurau ei genedl am oes fesianaidd, oes sanctaidd, a'i chyfiawnder a'i chariad yn amlygu holl angerdd ac arddeliad yr Ysbryd.

Yn ôl yr Athro Patrick Ford, 'y mae'r dystiolaeth gynharaf am Arthur yn ei osod yn ddiogel ymhlith ffigurau a gysylltir yn bendant gennym â thraddodiad mytholegol a etifeddwyd o'r cyfnod Celtaidd.