Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thraed

thraed

Gogwyddodd tuag ataf ar flaenau ei thraed.

'Shwt ych chi, Mr Huws?' gofynnodd y ddynas ganol oed, o ran ffurfioldab yn hytrach na chwrteisi, wrth roi ei welintons am ei thraed.

Roedd hi wedi dangos y cyrn oedd ganddi ar ei thraed i'r plismyn.

Tipyn o sioc i Alice, oedd wrthi'n llyncu asbrin ac yn mwydo'i thraed yn y gawod, oedd clywed y myllio mwyaf erchyll yn dod o'r stafell wely.

Arhosodd yn daclus ger drws yr ysgol ac ohono daeth boneddiges yn ffwr o'i phen i'w thraed.

Yn yr oriel uwchben y grisiau roedd y gerddorfa fach o bum chwaraewr wedi dechrau cyfeilio i'r dawnswyr, a daeth yr hen wefr gyfarwydd dros Meg nes iddi deinlo bod ei thraed eisoes wedi magu adenydd.

Ei gas beth a fyddai cael ei erlid o'i dŷ ei hun, 'run fath a Dafydd Gruffudd, gan ryw geilioges o ddynes yn cwyno ei fod o dan ei thraed hi o fore gwyn tan nos.

'Vatilan,' meddai Nel un bore gwyn a hithau'n codi ar flaenau'i thraed ger y muriau mawr, 'dwi isio siarad hefo chdi.'

o hyd ..." Trodd Morwen oddi wrth y ffenestr a cherdded ar flaenau ei thraed at y gwely.

Yna, daw yn ei hôl gan gadw ar yr un trywydd yn hollol ac ar ôl dod gyferbyn â'r wâl fe gyfyd ar ei thraed ôl a rhoi llam o'i hunfan nes disgyn yn y wâl.

Gafaelodd yn ei dwylo a'i thynnu'n ddiseremoni ar ei thraed a chyn iddi hi ddeall yn iawn beth oedd yn digwydd, cododd hi'n gorfforol a'i chario 'nôl i'r bwthyn.

Cychwynnodd redeg ar flaenau'i thraed dros lawr y gegin, ond rhewodd mewn braw pan glywodd floedd awdurdodol o'r tu allan.

Bachodd blaen ei welinton yn y weiran lefn a oedd wedi tyfu mor naturiol â dail tafol o'r ddaear dan ei thraed!

Glynai ei thraed ynddo.

Mae'r cymeriadau hwythau'n llawn ac yn annwyl: Eli'r hen gocyn bach ffwdanus; Mona'r rasberry ripple a'i thraed yn solat ar y ddaear; Tref llipa, llwfr a diddychymyg.

'Bacha hi adra'!' Edrychodd Elen ar Meic am eiliad ac yna, trodd a rhedeg nerth ei thraed i gyfeiriad y dreflan.

dan ei thraed gwichiai a chleciai'r brigynnau coed, ac o rywle deuai siffrwd tyner annirnad i dorri ar y distawrwydd.

Trodd ei chorff wedyn yn araf a gosgeiddig, heb godi ei thraed.

Fel arfer byddai Bethan yn aros ar ôl i lyfu'r hen Dwm Tew ond y bore hwn roedd ar ei thraed ac allan trwy'r drws cyn i Guto gasglu ei lyfrau at ei gilydd.

'Rşan y plismon plant ichdi,' ysgyrnygodd Nel yn sefyll a'i thraed un bob ochor i ben PC Llong a lledr ei sgidiau sodlau uchel yn cochi'i glustiau, 'tydi Vatilan heb ladd neb yn naddo?'

Ar flaenau ei thraed, aeth yn ôl.

Cododd y gwres i'w phen eto a safodd ar ei thraed a cheisio gafael yn y silff-ben-tân i'w harbed ei hun.

Teimlodd Llio ei chalon yn peidio 'a churo, ei bysedd a'i thraed yn ddiffrwyth a hithau'n ysgafn ei chorff ac yn teimlo ei bod yn codi uwchlaw y gwely.

Rhedai i fyny'r bonciau ar ôl yr hogiau a lluchio'i chorff ar y gwellt nes bod cwmpas ei gwisg laes yn un llanast wrth ei thraed.

Safai o hyd ar flaenau'i thraed tua hanner ffordd ar draws llawr y gegin, yn ei choban wen, a'i breichiau ar led fel petai ar ganol cofleidio rhyw berson anghwmpasadwy, a'i llygaid wedi rhewi'n fawr a chrwn fel dau blât piwtar.

Yna, arweinidod y cawr ef i'r lifft heb yngan yr un gair ac o hwnnw, gyda thraed Willie yn suddo yn y gwely plu o garped, i'w ystafell.

Os byddai yn sal byddai yn codi a gorwedd ar y sofa a rug dros ei thraed.

Plannodd ei llaw i ganol y jwg chwart ac yna sodro'r dannedd yn ei cheg; gwthiodd ei thraed i'w slipars rywsut-rywsut a'i ffwtwocio hi am y ffenestr.

Rydw i wedi dwyn y plant i fyny ar gyfer eu dyfodol heb feddwl dim amdanat Ti." Cododd ar ei thraed a galw ar ei phlant ar unwaith.