Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thrafod

thrafod

Dydw i ddim yn siwr ai'r math o athrawon na fedran nhw eistedd, gwrando a thrafod yn gall fyddwn i eu heisiau mewn ysgol lle byddai gen i blant.

Yr oedd honno tua chwe throedfedd o hyd, a phwysai tua dau gan pwys, a phan ddefnyddid yr allwedd fawr byddai wyth o wŷr y felin yn ei thrafod gyda'i gilydd.

Mae'n anhygoel fod Cyngor wedi ei arwain gan Sosialwyr yn cwyno ein bod yn gwrthwynebu rheolaeth Quangos Torïaidd ar ein system addysg, ac yn defnyddio hwn yn esgus i beidio â thrafod argymhellion y mae sir gyfagos Ceredigion yn eu hystyried yn ddigon pwysig i'w hastudio'n fanwl gan is-bwyllgor arbennig.

Fodd bynnag, o safbwynt cadwraethol ac addysgiadol, dylid annog y defnydd o bethau heblaw mawn, a thrafod y rhesymau dros hynny gyda'r plant.

Yn codi o'r Confodion cytunwyd bod llawer iawn o waith trefnu a thrafod ynglyn a'r datblygiadau arfaethedig sy'n gysylltiedig a'r hen waith brics a'r ymestyniad o'r llwybr ar hyd Afon Wygyr.

Ond yr oedd yn rhoi cyfle iddo gadw ei feddwl yn fywiog, yn ogystal â thrafod gyda phobl ddeallus y pynciau yr oedd ganddo ddiddordeb mawr ynddynt.

Y rhain oedd y dadleuon, y tyndrâu, ac er na fynnaf ei thrafod heddiw, yr oedd hefyd y ddadl foesol hanfodol ynglŷn â defnyddio dulliau uniongyrchol.

Mae hi'n egluro o ble rydan ni'n tarddu, a sut y llwyddwyd i greu cymdeithas oedd yn gallu siarad, dadlau a thrafod â hi ei hun.

Bu'n bnawn gwerth chweil gyda'r tri gŵr da, yn olrhain hanes 'Chwarel Bryn', y cymeriadau a weithiai yno, y teuluoedd oedd yn byw o gwmpas, ynghyd a thrafod nodweddion y tirwedd a'r ardal.

Yn y cyfarfodydd dysgais y morse code a'r semaphore, sut i wneud cylymau o bob math a thrafod cwch hwyliau, sut i godi pabell a chwythu biwgl a sut i blygu baner yr Union Jack, ei chodi i dop y polyn a'i hagor yn daclus.

Mae Rheol XV yn eu rhybuddio i beidio â thrafod eiddo wedi ei smyglo ac y mae Rheol XVI yn trafod ymddygiad tuag at yr awdurdodau gwladol.

Yn hytrach na thrafod un testun fel ag y gwnaf o dro i dro teimlaf mai mwy priodol imi y tro hwn eto yw rhoddi sylwadau ar rai materion sy'n ymwneud â garddio a ddaeth i'm sylw trwy sgwrsio, cael fy nghwestiynu a darllen yn y wasg ddyddiol fel y digwyddodd yn ddiweddar.

Yr oedd y cwestiynau cyntaf yn ymneud â dosbarthu a thrafod cynnwys y Ffeil Goch.

Datblygodd y gystadleuaeth gyda'r blynyddoedd gan ofyn i'r clybiau gyflwyno a thrafod llyfr rhagor na dysgu ffeithiau moel am y gyfrol.

Gorau oll, yn fy marn i, oherwydd ni fwriadwyd inni fedru trin a thrafod y Bydysawd drwyddo draw, ond yn hytrach ryfeddu a ryfeddu at ei holl ogoniant a'i ryfedd ffyrdd.

Yr hyn sy'n newid yw ei ddull ffurfiol ef o fynegi'r profiad wrth iddo arbrofi â thrin a thrafod paent.

Gwyddai'r gwrandawyr cyfarwydd i'r dim b'le i dorri ar draws ac i ba raddau.) "Roedd y fenyw yma'n wyllt ac awdurdodol iawn, a'i gwr, oedd yn ddyn tawel, gonest a swil iawn, yn methu â'i thrafod hi.

Y fframwaith greiddiol yw'r ymwneud a'r defnydd o iaith mewn dulliau dysgu ond bydd gwahaniaethau ym mhrofiad yr athrawon ac yn eu gallu i drin a thrafod y Gymraeg yn hyderus.

Cwrdd a thrafod adroddiad y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar gyda'r awdur a swyddogion yn y Drenewydd.

Er bod pawb wedi hen anghofio amdanynt erbyn hyn, mae gofyn canu clodydd grwpiau fel Nid Madagascar ac Wwzz wrth drin a thrafod cerddoriaeth ddawns Cymru.

Dosberthid adroddiadau'r arolygwyr ffatri%oedd a mwyngloddiau yn helaeth, gan anfon copi%au at bob perchen gwaith glo, a phobun arall a allai fod â diddordeb, ac yn ddieithriad dyfynnid ohonynt a thrafod eu cynnwys yn y papurau a'r cylchgronau taleithiol.

Mae'r rheiny wedi bod yn fwy na chyfarfodydd PR, meddai Gwyn Jones, maen nhw hefyd wedi bod yn gyfle i ateb cwestiynau a thrafod pryderon.

Os am osgoi pechod, peidiwch â thrafod moch.

Bydd angen dewis Pwyllgor Gwaith, swyddogion, enwebu ar gyfer yr is-bwyllgorau a thrafod safle'r Eisteddfod.

Mae Dewin yn gwmni sy'n arbenigo ar bob agwedd o ddelio â chyfrifiaduron - gan gynnwys trin a thrafod systemau, cronfeydd data, cynnal a chadw systemau cyfrifiadurol cwmniau cyfan, a chreu safleoedd gwe syml a chymhleth.

O'r gwraidd hwnnw y tyfasai urddas nerth a chyfiawnder dihysbydd a'r gallu i drin a thrafod dynion yn eu cynefin.

Cafodd gyfleusterau, hefyd, i ymweld â'r Lluoedd Arfog a thrafod gyda hwy faterion cymdeithasol, addysgol, a chrefyddol.