Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thranc

thranc

Pan oedd y cydio maes wrth faes yn digwydd, nid colli'r teuluoedd oedd yn byw yn y ffermydd yn unig yr oedd y gymdeithas; roedd y gweithwyr a'u teuluoedd yn gadael hefyd, ac yr oedd y crefftwyr yn mynd yn brin ac yn diflannu, ac nid oedd angen gwasanaethau ar boblogaeth denau oedd yn nychu i'w thranc.

Os oedd ei ragflaenydd, Raul Alfonsin, wedi methu'n llwyr ag achub y wlad o'i thranc, pa obaith oedd gan ddyn byr, hyll yr olwg, i gyflawni gwyrthiau?

A fyddai ei dranc anochel ef yn fwy gogoneddus na thranc anochel pawb arall ohonom?

Rwy'n ofni bod ei thranc hi yn ymyl nawr.

Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.

Thema ganolog: Adwaith ac Ad-drefnu: y Rhyfel Mawr a'r adwaith iddo yng Nghymru; a'r modd y bu'n rhaid i Gymru aildrefnu yn fewnol ar ôl cael ei sugno i mewn i gyflafan y pwerau mawrion; y modd y dechreuwyd amau a chwalu'r hen safonau a fodolai cyn y Rhyfel, a'r Eisteddfod, yn arbennig, yn wynebu cyfnod o argyfwng gyda rhai yn proffwydo ei thranc.

Testun tosturi yn peri tristwch hyd boen yw gweld darn o wlad yn wynebu difodiant ei hiaith a dinistr ei diwylliant a thranc ei chymdeithas a'i harferion a'i ffordd o fyw.