Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

threigl

threigl

Serch hynny, gan fod llawer o wybodaeth amdano wedi mynd ar goll gyda threigl amser, nid oes modd bod yn hollol sicr ynglyn â rhai o ffeithiau ei fywyd.

Mae pob ffrwyth sydd yn aros ar frigau'r llwyn yn codi ei werth y tu hwnt i reswm gyda threigl y misoedd llwm.

Gyda threigl y canrifoedd dirywiodd yr adeiladau coed, sef tai'r bobl gyffredin a siopau a thai gorffwys y pererinion.

Amser maith yn ôl yr oedd Tonle Sap yn fraich o'r môr, ond gyda threigl y blynyddoedd ymffurfiodd y llaid a gludid gan yr afon i lawr i'r môr, yn ddarn o dir ar draws genau'r afon a chaewyd Tonle Sap i fewn.

Dod i ddeall fod pobl yn newid gyda threigl amser a wnawn trwy gyfrwng y ddau gymeriad yn y stori, Gwen a Jane Clecs.

Mae'n siŵr y gellid rhoi llawer ateb, ond byddai nifer ohonom yn cytuno i weld arwyddocad arbennig mewn cerdd eisteddfodol arall, na chollodd ddim o'i hapel na'i grym gyda threigl y blynyddoedd.