Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

throedfedd

throedfedd

Yr oedd honno tua chwe throedfedd o hyd, a phwysai tua dau gan pwys, a phan ddefnyddid yr allwedd fawr byddai wyth o wŷr y felin yn ei thrafod gyda'i gilydd.

Gorfod chwilio am ryw chwe throedfedd o dywod go lân i barcio'r corff, y bwced a'r rhaw a'r holl geriach a chael tywod yn crensian rhwng ein dannedd wrth fwyta'r brechdanau ac yn rhedeg yn afon fach ar hyd y tudalennau rydych chi'n ceisio'u darllen.

Ta waeth, roedd y profiad o ymdrochi mewn dwr cynnes iawn a gorchuddio pob modfedd o'm corff mewn mwd folcanig, meddal, du, tua throedfedd o drwch yn brofiad bythgofiadwy.

Trodd a gweld y cawr chwe throedfedd a'r graith ar ei wyneb yn gwenu'n hyll arno.

Wedi rowlo'r llafn ddwywaith neu dair, cyrhaeddai'r hyd o ryw chwe throedfedd, ac yna tatlai'r rowlwr y llafn at y dwblwr.

Disgynnodd Mr Parker, a oedd yn chwe throedfedd tair modfedd o daldra ac yn pwyso pymtheg stôn ar ben pentwr o wŷr, gwragedd a phlant.

Roedd dros ei chwe throedfedd, cawr mawr du ei wallt a thrwm ei olygon.