Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

throi

throi

Mi adawn y llwybr yma a dringo'r llethr glos ar y dde i gyrraedd Llwybr Pyg a throi yn ôl tua'r dechrau, gan edrych i lawr ar y llynnoedd yn awr.

Pan ddaeth yn ddiwrnod mynd â'r ferfa allan am y tro cyntaf, a chychwyn o dop y cae tu ôl i'r tū efo hanner ei llond o gerrig, dim ond tua chwarter y ffordd i lawr y daeth na chraciodd yr olwyn wrth yr echel a throi ar ei hochor yn ddau ddarn a'r ferfa ar ei thrwyn yn y ddaear.

Rhan arall y bu Reeves yn ddigon gwirion i'w throi i lawr oedd un James Bond.

Deffrôdd y Times ar unwaith i ddweud y dylid ymarfer '...' yng Nghymru, cyn iddi hithau godi Cynghrair Tir a throi'n ail Iwerddon.

Roedd hi'n fore braf, a chan fod rhyw ddwy awr i fynd cyn y dadorchuddio, gadewais y ffordd fawr wrth dafarn y Red Cow yn Nhreorci a throi i fyny i Troedyrhiw Terrace wrth droed Moel Cadwgan.

Anelu tua'r de-ddwyrain dros gefnen greigiog Blaen Rhestr i'r hen ffordd las a throi i'r chwith heibio Carn Ricet i gyrraedd yn ôl i'r car.

Ac mi es yn ôl i'r ochr, rhwng y ceir, a throi i far cyfagos am beint.

Dyma arafu a throi i'r chwith eto; ffordd wlad bellach, a thipyn o godiad ynddi hi, gwrychodd uchel, a wyneb y ffordd yn is na'r caeau o'i deutu.

Ar y llaw arall, ame seiciatryddion a seicolegwyr wedi hen arfer â throi i fyd chwedloniaeth i fynegi a chyflwyno eu syniadau a'u delweddau.

Roeddem ein dau yn barod i wneud unrhyw beth i arbed Anti Meg rhag cael ei throi'n ganeri.

Yma mae'r adran sy'n union uwchlaw'r cydlif wedi ei throi'n gamlas ac wedi'i chyfyngu gan argloddiau gwneuthuredig.

Yn hardd a galluog ond heb un ffrind a allai fod wedi trafferthu digon i gyflawni'r ffafr syml o'i chadw'n fyw..." "Paid." "...All siarad o nawr hyd Ddydd y Farn newid dim ar y ffaith mod i wedi'i lladd hi, cyn sicred a phe bawn i wedi suddo cyllell ynddi a throi'n llafn yn y clwyf." "Roeddwn i'n amau.

'Pwy soniodd am ei throi'n ôl yn fenyw?' crechwenodd y gath, ac edrychai'r gwrachod hwythau yn blês iawn.

Ond yn sydyn cofiodd am rywbeth, a throi'n ôl yn ei thracs.

efalle na fyddech chi'n gallu'i throi hi'n ôl i fod yn fenyw wedyn ...' ychwanegodd mewn llais tawelach, wrth weld y gwrachod yn rhythu'n ffroenuchel arno.

Doedd dim hanes am dywydd gwair, felly codais fy mhac a'i throi hi am Iwerddon.

Ond efallai i'r cynllun gael ei ddiddymu am fod Cromwell yn rhannol yn ofni y defnyddiai'r Major-General Harrison ei afael ar Gymru i'w throi yn bwerdy iddo'i hun (na, nid adwaenent Gymru).

Bu cudyll o hofrennydd uwch ein pennau drwy'r prynhawn a'i chysgod swnllyd, symudol, yn dychryn wyn y ffridd i bob cyfeiriad cyn glanio i lyncu criw o actorion a throi porfa'r ddôl yn gryndod o nerfau.

Y mae un o elfennau hanfodol "gwybodaeth" ar goll - sef y deunydd crai y mae'r meddwl yn eu moldio a throi'r synwyriadau'n wybodaeth.

Doedd dim modd ei throi hi pan fyddai'n siarad yn y don yma.

Dechreuodd y cwtogi pan ataliwyd y gofalwyr a throi'r cwbl yn fysys-un-dyn.

Ymlaciodd hithau yn ei erbyn, a theimlo'i haelodau'n ymollwng fesul un wrth i'w anadlu dwfn arafu, a throi'n chwyrnu rheolaidd isel.

Yn anffodus, un penwythnos, buodd y cwbwl bron â throi'n sur arnon ni.

Roedd y bwrdd wedi ei osod yn barod ar gyfer brecwast drannoeth, bowliau bara llaeth wyneb i wared mewn rhyw wyth neu naw o lefydd, ar wahân i lle'r oedd Dic yn eistedd, y lamp baraffin ar y wal uwch ei ben wedi ei throi i lawr rhag iddi fygu yn y drafft.) "Roedd hi'n bert iawn, gwraig y ffarmwr yma.

oherwydd y drwg mawr a all ddigwydd i lenyddiaeth o'i throi hi'n israddol i wleidyddiaeth a phroblemau politicaidd, megis pwnc yr

Gafaelai mewn un pen o'r senglen gyda'r efail a cheisio'i throi ar lawr y felin.

Ond gadewch inni fod yn onest a ni ein hunain; wedi tynnu corcyn go anodd o botel y mae o yn hytrach na throi dwr yn win.

A bydd ymateb Duw yn drugarog: bydd yn rhoddi maddeuant yn rhad am y pechodau mwyaf, os bydd y pechadur yn edifarhau a throi oddi wrth ei bechodau.

Gall y rhain newid eu lliw a throi'n wyn fel y bo'r galw.

Gwnâi'r peilot bob math of driciau wedyn gan droi a throi fel pry yn yr awyr.

Wedi ei throi hi am y neuadd yr oedd pawb, wedi mynd i wrando ar John Edmunds, Plas Deri, yn bwrw trwyddi ar ôl cael ei ethol ar y Cyngor Sir a hefyd yn Gadeirydd Cyngor y Dref.

Gwnaeth glamp o ymdrech i ddod ati ei hun, sychodd ei dagrau gan obeithio nad oedd wedi sylwi, a throi'n ôl ato.

Roedd yr afon yn rhuthro'n wyllt dros y cerrig ac yna'n arafu a throi mewn pwll dwfn.

Mi fyddai hynny, os rhywbeth, yn waeth na chael ei throi'n ganeri.

Yn ddisymwth oedodd ei law a throi at y ferch a safai'n gwylio'r gwaith.

'Ni thrig dim da yn ei Ddinas... Cynwysa, ym mhob caniad, olud o iaith a meddwl; ond iaith ydyw wedi ei throi'n drythyllwch, a meddwl wedi ei ddarostwng i oferedd, 'meddai Eifion Wyn.

Ac os Crist yw 'Arthur' beth yw ystyr 'nes cofio o'r dihenydd tlawd/Fynd Arthur o'i flaen a throi'n Te Deum ei farwnad'?

Cododd y bwced a throi at y graffiti enbyd a baentwyd hyd furiau ei gelloedd.

Yna gwelodd Janet yn dod tu ôl iddo a gafael yn ei law a i geryddu: 'Robert, paid blino Miss Beti fel hyn!' Yn sydyn daeth iddi ddarlun rhithiol o bellter ei phlentyndod ei hunan, ac am rai eiliadau gwelodd wyneb Janet yn newid a throi'n wyneb Hannah unwaith eto.

Wrth i honno gael ei throi, byddai'r plant yn disgyn i ofal y lleianod y tu mewn.

ffwrn, a throi'r botwm ar y wal, a dod 'nôl i'r gwely.

Cymysgwch y cynhwysion yn ofalus iawn a rhoi y cwbl yn y peiriant CD a throi y nobyn ar eich stereo i'r pen.

'Taswn i'n dy le di, del,' meddai'r swyddog yn fychanus, 'mi faswn i'n ei throi hi'n ôl i chwarae hefo dy ddolia achos dim ond tamaid io aros pryd fasa peth fach tlws fel ti i Caligwla fan hyn, yntê, 'ngwash i?' meddai wrth yr hyllgi glafoeriog o flaen Elen.

Ni freuddwydiodd erioed y gorchmynnai neb ef i adael ei aelwyd, cerdded o'r tū fu'n eiddo i'w deulu ers cenedlaethau, a throi cefn am byth ar y tir a'i noddodd.

Taflodd ef i gefn y cwpwrdd sosbenni a throi wedyn a chythru drwy'r pasej.

Gyrru yn ôl i Abergwesyn a throi i'r dde am Lanwrtyd.

Yn y rhamantiaeth ddirywiedig hon yr oedd ysfa i fynd o'r tu arall heibio i fywyd bob dydd a throi at fyth, myth a oedd, chwedl yntau: wedi ei seilio ar apêl at y gorffennol neu at brydferthwch pell, afreal, negyddol.

Balch oedd o gael y defaid yn ddiogel a throi i mewn gyda'r nos at y tân a golau cynnes nwy calor a lampau olew.

Gwnaeth y pwysau ychwanegol i'r llong wyro i un ochr a throi drosodd.

Digon o arwydd iddi ei throi hi.

Gwneir hyn fel na bo'r tatws bach yn dod i'r golau a throi'n wyrdd.

Bydd gennych gwy o gymhelliant i beidio a throi yn ol os yw'ch cytundeb gennych i'ch atgoffa.

Rhoddodd botel fach i mi a hanner coron.Wrth ddychwelyd ar hyd y lon gefn a throi wrth Siop Bapurau Huw Davies fe syrthiais a malwyd y botel.

Ar ôl y saethu mawr mae'r cerrig sydd wedi dod o'r graig yn rhy fawr i neb fedru gwneud dim â hwy, ac felly rhaid cad twll eto ym mhob carreg, ond ddim yr un math o dwll â'r cyntaf: twll singl hand y gelwir hwn gan mai un dyn sydd yn ei wneud; ebill bychan sydd ganddo ac mae'n taro a throi ar ei ben ei hun.

Cynwysa, ym mhob caniad, olud o iaith a meddwl; ond iaith ydyw wedi ei throi'n drythyllwch, a meddwl wedi ei ddarostwng i oferedd, 'meddai Eifion Wyn.

Roedd wedi dweud y flwyddyn gynt y dylai Tegla fod wedi gadael i W^r Pen y Bryn gwblhau'r drwg a oedd ynddo, yn hytrach na'i achub, a throi'r nofel yn bregeth gyda thri phen iddi (An Introduction to Contemporary Welsh Literature).

Gwenais arno a throi tua'r bwrdd bwyd.

"Peth digon digysur ydy bod mewn fflat a honno ar ganol ei hailwampio," ebe Emli, "Rhaid i chi ddod atom ni i fwrw'r Sul." "Rydan ni'n byw hefo'n gilydd," meddai wedyn, a throi at Alis a honno'n edrych allan i eangderau'r mor.

Yn nes ymlaen, wedi i mi a gweddill y criw fynd drwy'r rheolfa basport, sylwais fod Siwsan wedi cael ei throi yn ôl a'i hanfon i swyddfa arbennig.

Yn ail, mae llawer o'r rhai sydd yn y gerddi yn y Gwanwyn a'r Haf yn ei throi hi am y wlad yn y Gaeaf ac yn bwydo ar bob math o hadau, a hefyd ar weddillion y grawn yn y caeau ūd a'r gwenith Er bod y pincod i gyd yn byw ar hadau, mae pig y rhan fwyaf ohonynt yn amrywio i drin yr hadau y maent yn ei fwyta, ac i ddileu unrhyw ffraeo ynglyn â bwyd.

"Dyna fi enw digri." Brathodd ei gwefus a throi ei phen ychydig ac edrychodd arnaf o gornel ei llygad.

Efo mwy a mwy o'r sector cyhoeddus yn cael ei throi'n asianteithau preifat mae hynny yn golygu fod y Gymraeg yn mynd i gael ei gweld mewn llai a llai o lefydd.

Pan roddir ef mewn asidau, mae'n troi'n goch, a throi'n las pan ddaw i gysylltiad ag alcaliau.

Ysgydwodd ei llaw yn rhydd a throi ymaith.

Nid oedd modd ei throi'n ffaith yn y byd ymarferol.

Craciodd yr awyr o'u cwmpas wedi'i throi'n llwch.

O'r adeg pan ryddhawyd ef ar y trydydd dydd bu'r dyddiau canlynol yn fath o dir neb yn ei fywyd, yn daith ddiddychwelyd, yn ganu'n iach i un ffordd o fyw a throi i dderbyn cymdeithas newydd, un na fyddai'n wir aelod ohoni.

Ar ôl mynd heibio i Lanafan Fawr mae'n werth oedi peth a throi i'r chwith ar hyd y ffordd gul wledig i ben uchaf Cwm Chwefri.

Os felly cymryd stafell mewn gwesty a throi'n ôl drannoeth.

Enillodd ysgoloriaeth i Fangor a throi oddi wrth hanes, ei ddewis bwnc gwreiddiol i astudio Cymraeg.