Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

throsglwyddo

throsglwyddo

Dull arall oedd torri croen braich person a throsglwyddo iddo gynnwys polleth claf nad oedd yn ddifrifol wael.

Ceisiodd Carol lunio rhestr neges yn ei phen fel y gallai ei throsglwyddo i Emyr dros y ffôn.

O safbwynt adeiladu a throsglwyddo ystadau yr oedd y gyfraith Seisnig yn amlwg yn fwy manteisiol na'r gyfraith Gymreig, ac o'r cychwyn cyntaf gwelir rhai Cymry nid yn unig yn ymwthio i rai o'r bwrdeistrefi ond hefyd yn mynnu'r hawl i ddal eu tiroedd a'u trosglwyddo yn ôl cyfraith Lloegr.

Yn gyntaf, bydd angen cynnydd yn nifer y bobl sy'n byw yng Nghymru sydd â'r gallu a'r dymuniad i ddefnyddio'r Gymraeg, a'r hyder i'w throsglwyddo i'r genhedlaeth nesaf.

Honnai ar un adeg ei fod ef yn perthyn i fudiad a elwid Brodoliaeth Beirdd Morgannwg, a phwysleisiai fod yn ei fro ef feirdd o hyd a oedd, yn wahanol i'r rhai a geid ym mro%ydd eraill Cymru, wedi etifeddu 'Cyfrinach y Beirdd' yn yr hen ffordd draddodiadol trwy iddi gael ei throsglwyddo i lawr o athro bardd i ddisgybl yn ddi-dor er amser y derwyddon, yn wir, o Oes Aur Dynolryw, a'i fod ef yn un o'r etifeddion breiniol hynny.