Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

throsi

throsi

Gorweddai yn ei gwely bach pren mewn twll yng nghlawdd y cae haidd yn troi a throsi, yn ysu am weld golau dydd.

Nid oedd flewyn o'i le ar ei gwallt hyd yn oed wrth iddi droi a throsi.

Yn y Gymraeg y siaradai, gallasai fod yn ben tost i'r cyfieithydd ar y pryd ond mae'n siwr iddo gael y cwbl ymlaen llaw a throsi'r wybodaeth i'r iaith fain yn rhugl a rhwydd.

Ond doedd y cochion ddim wedi cwbwlhau eu gorchest, ac fe fylchodd Roy Bergiers mor effeithiol fel na fedre'r gleision rwystro'r wythwr, Hefin Jenkins, rhag croesi am gais arall, i'w throsi gan Phil, i roi deg pwynt ar hugain ar y sgôrfwrdd--yn erbyn saith pwynt Caerdydd Nid gwneud cam â Chaerdydd yw dweud eu bod nhw wedi rnethu gyda chwe chic at y pyst, wrth iddyn nhw ddefnyddio Gareth Edwards, Leighton Davies a Keith James yn eu hymdrechion.

Eto, y mae treulio llawer o amser, ie, y rhan fwyaf o'ch amser tra yn yr Athrofa, i droi a throsi Geiriaduron, ac i chwilio a dysgu Gramadegau, weithiau yn peri difaterwch yn meddwl dyn yng nghylch amaethu crefydd ysbrydol yn yr enaid, a dal cymundeb a Duw.

Ambell dro troi a throsi am hydion, ychydig funudau o gysgu a breuddwydio hiraethus ac yna dihuno drachefn a'r breuddwyd gynnau'n deffro pryderon amdanynt gartref.