Ein cyfrinach ni ydi na wnaethom ni erioed ildio, tra eu bod nhw yn Llywodraeth ganolog, yn llywodraeth leol ac yn gwmnïau preifat, bach a mawr, wedi ildio i ni drosodd a throsodd.
Roedd hwn yn gychwyn cyffrous i bob eisteddiad a gallaswn i fod wedi'i wylio drosodd a throsodd heb syrffedu.
Yna fe gododd brawd arall, ac fe lediodd emyn: 'Dewch hen a ieuanc, dewch/At lesu, mae'n llawn bryd./Rhyfedd amynedd Duw/ Ddisgwyliodd wrthym cyd.' Ac fe'i canwyd hi drosodd a throsodd a hynny gydag arddeliad mawr, a'r hen chwiorydd oedd yno yn canu dan siglo'u hunain, a'u dagrau'n rhedeg i lawr eu gruddiau.
Daeth i eistedd wrth fy ochr a dywedodd wrthyf y buasai yn hoffi i mi ddweud y frawddeg drosodd a throsodd nes iddi hi fy stopio.
Cerddi lliwgar i'w mwynhau yw'r rhan fwyaf, cerddi y galwch eu darllen drosodd a throsodd a gweld profiad newydd ynddynt bob tro.
Yn Gymraeg (ac yr oedd hynny yn syndod pleserus) ac yn Saesneg bob yn ail yr oedd y cyhoeddwyr yn mynnu ailadrodd eu neges drosodd a throsodd a throsodd a throsodd nid yn unig am chwarter awr a mwy cyn i bob tren gyrraedd ond, yn achos un tren, yn parhau ar cyhoeddiad fod y tren ar fîn cyrraedd hyd yn oed ar ôl iddi adael a pharhau ar ei thaith.
Llyfai'r hen ŵr ei wefusau wrth fy ngwylio, drosodd a throsodd, gan dynnu un wefus yn araf ar draws y llall, wedi ymgolli'n alarus, fel trefnwr angladdau yn "molchi% ei ddwylo yn sych.
Teimlai fel petai rhyw neges fach yn cael ei hailadrodd drosodd a throsodd yn ei ben, yn ei annog i fynd i Nofa II.
Cyfieithodd dair nofel o'r Ffrangeg gwreiddiol i'r Gymraeg i'w defnyddio mewn llyfrgelloedd yn unig, a throsodd nifer o emynau a chaneuon o'r Saesneg i'r Gymraeg.
Rhedai o gwmpas mewn cylch a'i drwyn ar y ddaear, ond pan âi'n rhy agos at y pysgodyn drewllyd roedd yn ysgwyd ei ben ac yn tisian drosodd a throsodd lawer gwaith.