Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thrwyn

thrwyn

Pan ddaeth yn ddiwrnod mynd â'r ferfa allan am y tro cyntaf, a chychwyn o dop y cae tu ôl i'r tū efo hanner ei llond o gerrig, dim ond tua chwarter y ffordd i lawr y daeth na chraciodd yr olwyn wrth yr echel a throi ar ei hochor yn ddau ddarn a'r ferfa ar ei thrwyn yn y ddaear.

Cododd ei llaw at ei thrwyn a dechrau ei rwbio i'w gynhesu.

Wyt ti'n cofio?" Hwyliodd y llong heibio'r morglawdd, a'i thrwyn yn ffroeni'r môr agored.

Nodiodd Nain gan sychu'i thrwyn drachefn a'r dagrau'n cronni yn ei llygaid hi ac yn cychwyn rowlio i lawr ei bochau hi wedyn.

Roedd blaen ei thrwyn yn goch.

Craith ar grib 'y moch dde a thrwyn cam 'da fi i ddangos hyd heddiw; i gofio...

meddai Del gan wasgu blaen ei thrwyn.

Gwynt teg ar ei ôl o ddeuda' i.' Doedd waeth beth wnâi Vatilan, byddai Nel yno'n gefn iddo bob gafael ac ni adawai i air yn ei erbyn fynd heibio'i thrwyn.

Roedd ganddi dalcen cadarn a thrwyn hir main a gwelodd Llio ei gwefusau llawn yn toddi'n llinell i'w gwddf hir.

Dyna olwg wirion oedd arni mewn gymslip gyda gwallt cwta cwta a sbectol hen ffash' ar ei thrwyn!

Edrychodd y fuwch yn hurt arno a llyfodd ei thrwyn.

Daliodd Ifor hi a gwenodd fodfedd o'i thrwyn.

Roedd yr hen wraig yn pendympian cysgu, a'i sbectol wedi llithro i lawr ei thrwyn.

Prynodd ūd a gwenith yn un o siopau'r dre i'w rhoi yn y cyntedd, a thalu drwy'i thrwyn amdanynt.

LLyncodd ei phoeri, estynnodd ei hances o'i llawes a chwythu'i thrwyn yn iawn.

Gwasgodd ei thrwyn yn obeithiol yn erbyn y gwydr mewn ymgais i weld y tu ôl i'r gegin, ond yn ofer.

Ond yn lle'r gair 'glân' daeth tisiad anferth o'i thrwyn a chawod yn ei sgîl, nes bod Mam yn bagio a'i chefn at y wal.

Byseddodd Llio y cynfasau, y gobennydd, ei gwallt, ei llygaid, ei thrwyn a'i cheg.

Mae'n rhaid fod plismyn wedi crebachu dros y blynyddoedd, roedd Angharad Tomos yn gallu edrych lawr ei thrwyn ar hwn.

Llygadrythodd arni o bell; rhythodd hithau'n ôl, ei thrwyn yn yr awyr.

Codai aroglau awr y trai i'w ffroenau a chrychodd ei thrwyn, mewn diflastod.

Fydd Caerdydd ddim yn enwi clo Abertawe, Tyrone Maullin, wedi tacl uchel dorrodd ên a thrwyn asgellwr Caerdydd, Paul Jones, yn y gêm yng Nghynghrair Cymru a'r Alban ar Sain Helen.

Saith mlwydd oed oedd yr unig ferch ddibriod yn y cwmni, creadures fach â llygaid duon, cudynnau o wallt gludiog, pigog, a'i thrwyn fel rheol heb ei sychu.Ac fel rheol cariai ar ei braich fachgen bach oedd yn ddigon pwysig i wisgo ffe\s coch tywyll.

Chaiff hi mo'i thrwyn i mewn i'r tŷ yma, reit siŵr iddi hi.

Yn sydyn, llithrodd y bollt yn ddidrafferth i'w le, ac agorodd drws y bwthyn led y pen, gan daflu'r hen wraig fel crempog yn erbyn y wal a rhoi clec iddi ar ei thrwyn.

Am nad oedd y Capten yn dymuno hwylio mwy i'r De rhag ofn rhedeg i fryniau ia - daeth y llong â'i thrwyn i'r gwynt a'r môr.