Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thy+

thy+

Lwyddodd i ffonio naw o'r pymtheg ac roedd pob un ohonynt, ar wahân i Mrs Andrews a oedd yn dibynnu, 'yn dibynnu, Vera fach', arni i gael ei thŷ'n barod cyn ei pharti Nos Galan, wedi deall a derbyn y sefyllfa.

Roedd y cyfreithiau Cymreig yn gorchymyn i weision y brenin godi naw tŷ, gan gynnwys neuadd, ystafell wely, cegin, capel, ysgubor, odyn, ystabl, bragdy a thŷ bach, ar gyfer eu harglwydd.

Fe gawson ni ddechre da felly, gyda thy newydd i of alu amdano, yn ddi-rent, a ninne'n gyfrifol am goste trydan a gwres.

Roedd hen dwnnel tanddaearol, gannoedd o droedfeddi islaw, wedi mynd â'i ben iddo a'r tri thŷ uwchben a fu'n gartrefi, efallai, i rai o'r coliars a wnaeth y twnnel, wedi disgyn yn domen flêr o gerrig a fframiau ffenestri, ac yn lle chwarae bendigedig i blentyn wyth oed.

Mynd yno wnes i i weld criw o weithwyr yn gorffen codi pentre' Celtaidd - tri thŷ crwn nodweddiadol o'r cyfnod cyn hanes, wedi'u rhoi at ei gilydd gyda dulliau mor debyg â phosib' i ddulliau'r Celtiaid .

Mae Mr Robaits yn cael perthynas â Miss Parry, mae Mrs Jones yn yfed poteleidiau o gin y tu ôl i lenni ei thŷ, ac mae Mr Morris yn gwisgo dillad isaf merched.

Fe gadarnhaodd nad oedd porthorion, staff y dderbynfa na thy bwyta'r Celt yn cael siarad Cymraeg o fewn clyw gwesteion na fyddai'n eu deall, ond gwadodd bod hynny'n gyfystyr a bod yn wrth-Gymreig.

Ond mae'n ymddangos fod Miss Rowlands wedi dweud wrthynt ganol Chwefror na allai eu cynnal a'u gwahodd i adael ei thŷ .

Ar ben hynny, dydi bws arferol y côr gyda'i thy bach a'i pheiriant coffi ddim ar gael.

Nawr, roedd ganddyn nhw lolfa, ystafell fwyta, tair ystafell wely, cegin a thy bach.

Yng ngwir draddodiad roc a rôl fe gawn hanes y grwp yn ymweld a thy un o drigolion gwylltaf Caernarfon ac yn colli eu pennau mewn mwy nag un ystyr , gymaint âu bod yn...colli eu brên a theimlo fel ceffyl pren.

Os mai gormodedd yw nodwedd amlwg problem y gorllewin, tlodi a thŷf poplogaeth yw problem gyfatebol gweddill y byd.

Rafflwyd y trefniannau sidan ar ddiwedd y cyfarfod a phenderfynodd yr enillydd, sef Mrs Jean Clarke, roi ei gwobr i gynaelod sydd ar hyn o bryd yn gaeth i'w thy.

Ymhlith pynciau sgwrs pobl Llanelli yr oedd y tywydd deifiol o boeth a methiant diflas Cymdeithas Harmoni Llanelli yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin lle honnodd yr Athro Walford Davies fod y côr yn 'badly flat' wrth ganu 'How lovely is thy dwelling place' gan Brahms.

Gwrthdaro rhwng Ty'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi wrth roi'r drafodaeth am annibyniaeth i Gymru a'r Alban o'r neilltu.

Nid oes fawr o obaith y daw dim o werth oddi wrth na'r Cyngor na Thy^'r Cyffredin.

Ond, mae gobaith bod y Swyddfa Gymreig yn bwriadu dechrau'n fuan ar y gwaith o adeiladu ffordd newydd rhwng Dinmael a Thy Nant i osgoi Treoson y Glyn, gan fod yr holl drefniadau statudol bellach wedi'u cwblhau.

Edrychasom hefyd ar y broblem ynglyn â Thy'r Ysgol a oedd yn wag ers blynyddoedd.

Eisteddodd disgynyddion William Davies, Fforest Uchaf, teuluoedd Nant y Gro, Culheol, Y Tyddyn Melyn, Maesgwilym, Tŷ Mawr a Phwllygod a Thŷ'r Gors a'r Waungrin a gwrando ar gatalog o weithredoedd eu tadau a'u teidiau, eu mamau a'u neiniau.

Wedi'r ymweliad a'i thŷ breuddwydiasai'i bod hi'n ymddiddori ynddo ac y gallai hynny fod o fudd iddo.

Roedd mwy na digon ar gael, er fod galw y pryd hynny am weinidog ar ofalaethau heb fod yn fawr, megis Parc a Moelgarnedd; Tal-y-bont a Llidiardau; Celyn ac Arennig; Cwm Tirmynach a Phant-glas; a Rhydlydan a Thŷ Mawr.

Un bore eisteddai gwraig ddedwydd yn ei thy yn brathu darn maethlon o'i thost.

Nid oes ond ychydig gerrig i nodi'r fan lle gynt y safai'r hen fythynnod: Bryn Brith, Ty'n-y-cefn, Pen-y-foel, Glan-llyn, Tan y Garth, Rhydloyw, a Thy'n Pant.