Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tila

tila

Tila yw'r papur a'r argraffu.

Ni fedrant ddeall person sy'n ymgymryd â'r fath waith undonog o'i wirfodd a methiant yw ymdrechion tila Lenz i egluro, am nad yw ef ei hun yn argyhoeddiedig o effeithiolrwydd y dacteg hon i greu rhyw fath o ddealltwriaeth rhwng y myfyrwyr a'r gweithwyr.

O sbio'n ol, cildwrn tila iawn a gaent am eu gwasanaeth, ond cynhyrchodd y gyfundrefn honno genhedlaeth o wragedd ty a theuluesau dan gamp.

Yn araf gwasgarodd y dorf, yr awydd am ymladd wedi'i ddeffro, a dau o'r plant iau yn dechrau arni, ond dim ond ein dynwared ni oedden nhw, ac ni allai smalio tila felly fyth ddigoni syched y dorf am waed go iawn.

Hen enw bach tila iawn ydi o.

Os yw'r llythrennau i gyd yn gytseiniaid mae ar ben; ac os llafariaid ydynt i gyd gair tila iawn a geir.

Tila iawn bryd hynny oedd cynnwys bron pob siop; erbyn heddiw, y mae canol y ddinas yn debyg i unrhyw ddinas arall yng nghanol Ewrop.