I gael glo i'r tanau yn eu cartrefi - ac ni ellid coginio heb y rheina - yr oedd yn rhaid cloddio yn y tipiau glo a amharai ar harddwch y cwm, ac wrth gwrs yr oedd yn rhaid cludo sacheidiau adref - ar ysgwyddau'r cloddwyr neu ar ryw gerbyd olwynion, gwagen fach neu goets baban.
Oddi ar i'r pyllau gau 'roedd y tipiau'n gornwydydd ar hyd y cymoedd, ac ymhen misoedd 'roedd cysgod un ohonynt, uwch pentref Aberfan, wedi ei daflu ar draws yr holl fyd.