Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tiroedd

tiroedd

Gan fod Syr John Wynn wedi etifeddu tiroedd Gwedir wedi marw ei dad Morys Wynn, gwnaeth ei orau i greu ystad helaeth a gwethfawr.

Pan oeddwn yno yn nhalaith Efrog Newydd digwyddai fod cryn sôn fod disgynyddion y brodorion yn gwneud ymholiadau cyfreithiol i edrych a oedd posib iddynt gael eu tiroedd yn ôl, a doedd hynny ddim yn plesio y trigolion presennol.

Faint yw ein gofal am harddwch ein tirwedd ac yn dilyn rhesymeg Rio, y ddiwyllianau a thraddodiadau a gysylltir a'r un tiroedd?

Yn ail adran y gwaith ar Ddirywiad Ystad y Goron nodir mai afradlonedd Henry Vll a chostau rhyfeloedd yn erbyn yr Alban a Ffrainc a fu'n gyfrifol am y gostyngiad ac er i'r mab, Henry Vlll,godi £1,000,000 drwy werthu tiroedd yr abatai costiodd y rhyfel rhwng Ffrainc a Sbaen ddwbl hynny gan achosi cryn ostyngiad yn yr ystad.

Cyrhaeddodd cadwraeth yn rhy ddiweddar i arbed gwyddau Cefni, a gwelwyd sawl tro ar fyd yn y cyfamser, a hwnnw'n newid er gwell i lawer o hwyaid a rhai o adar eraill y tiroedd gwlyb.

Dull arall oedd sicrhau tiroedd rhai a fu farw heb ewyl1ys, troseddwyr, eiddo teyrnfradwriaeth fel a ddigwyddodd yn hanes Syr Rhys Ap Gruffydd a Syr John Perrot.

O safbwynt adeiladu a throsglwyddo ystadau yr oedd y gyfraith Seisnig yn amlwg yn fwy manteisiol na'r gyfraith Gymreig, ac o'r cychwyn cyntaf gwelir rhai Cymry nid yn unig yn ymwthio i rai o'r bwrdeistrefi ond hefyd yn mynnu'r hawl i ddal eu tiroedd a'u trosglwyddo yn ôl cyfraith Lloegr.

Wedi blynyddoedd o wynebu dyledion a chamweinyddu, meddyliwyd am y cominoedd fel moddion i ychwanegu at incwm tiroedd y goron.

Ceir amrywiaeth o iseldir yng Nghymru hefyd, gan gynnwys tiroedd yr arfordir, dyffrynoedd a'r gororau.

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yr oedd y gwahaniaethau technegol rhwng Sais a Chymro a rhwng rhydd a chaeth yn llawer llai grymus nag y buont: y gwahaniaeth arwyddocaol bellach oedd hwnnw rhwng y rhai a lwyddai i gynnull tiroedd ac adeiladu ystadau a'r rhai a fethai wneud hynny ac a gâi eu gwthio tuag at y cyflwr o fod yn llafurwyr di-dir.

Er bod trigolion tiroedd y meddiant hefyd yn ofni canlyniadau'r rhyfel, fe'u calonogwyd gan y posibiliadau.

Amcangyfrifwyd mai rhyw dri chan mil oedd ohonynt, gyda thuedd naturiol i'r boblogaeth grynhoi ar y tiroedd isel ac yn y dyffrynnoedd: anial a choediog oedd llawer o'r tiroedd uchel, ac anodd oedd teithio ar hyd y ffyrdd lleidiog a garw.

Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith fod cyfran uchel o dir Cymru'n cael ei ddefnyddio i gadw defaid a'r ffaith ei bod yn bosib cynnal rhifau cymharol uchel o ddefaid ar y tiroedd hyn.

Mae'r ddau'n ymladd byth a beunydd yn Ffrainc am fod y Brenin Edward III o Loegr yn mynnu mai fe biau tiroedd arbennig yn Normandi, Anjou ac Aquitaine yn Ffrainc.' 'A beth am y milwyr Ffrengig cyffredin?' 'Maen nhw'n meddwl bod Owain yn filwr gwych.

Yn dilyn, ceir golwg ar dywysogaeth Llywelyn cyn y gostyngiad pryd y derbyniai arian dirwyon y llysoedd, tollau a rhenti tiroedd yn ogystal ag elw y marchnadoedd a'r ffeiriau.

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif penodwyd John Griffith, Llanfair Is Gaer, Sir Gaernarfon, yn Dderbynnydd Cyllid Tiroedd dros y rhanbarth a Brenianllaeth Caer.

Mae ffermydd heddiw a'u tiroedd ar hyd a lled y wlad.

Roedd Mynydd Mwyn yn rhoi iddo gartref a sicrwydd a'r wlad o gwmpas yn cynnig amrywiaeth di-ail o olygfeydd: tiroedd gwastad Môn, wybren lawn golau, mynyddoedd a môr, y cyfan yn newid yn gyson i gyfeiliant y ffryntiau tywydd a sgubai drosodd o'r Iwerydd.

Yr oedd y dosbarth ysgwieriaid hwn, fel y gellid disgwyl, fwy neu lai'r un â'r dosbarth swyddogol: hynny yw, yr oedd casglu tiroedd a chasglu swyddi yn mynd law yn llaw.

Yn ychwanegol at yr awch cynhenid i estyn eu tiroedd, eu hamcanion oedd meithrin eu teyrngarwch i'r goron a'r sefydliadau perthnasol iddi, a chadw cysylltiad agos â'r beau monde dros y ffin yn Lloegr.

Mae'r tiroedd gwlyb sydd dan fygythiad yn cynnwys tir gwelltglas yn Ynys Môn, Pen Llŷn a Lefelau Gwent a chorsydd megis Cors Fochno a Chors Caron.