Cydnabuwyd ysgolheictod yn ei gyfanrwydd yn un o'r angenrheidiau pennaf yn natblygiad y dosbarth tirol, a'r prif gwrs astudiaeth a gymeradwywyd yn ôl traddodiad oedd rhethreg, mathemateg, seryddiaeth, barddoniaeth, prydyddiaeth, hanes, a gramadeg.
Cawn olwg ar ffynhonnell gyllidol werthfawrocach na'r enillion tirol; sef y brenin yn ennill y gallu a'r breintiau a berthynai i Lywelyn Ap Gruffydd yn y gogledd ynghyd a'r wrogaeth a berthynai i'r Tywysog.
Y parch a delid i'r etiquette moethus - y patrwm ymddygiad - a'r cwrteisi bonheddig, nodweddiadol o'r dosbarth tirol, yw'r brif allwedd i ddeall agwedd meibion Gwedir tuag at eu cymdeithas gartref ac oddi cartref.