Laserau tiwnadwy Un o'r datblygiadau mwyaf cynhyrfus ym myd y laser yn y blynyddoedd diwethaf yw'r laser tiwnadwy - laser lle gellir amrywio tonfedd y goleuni a ddaw ohono.
Yn ddiweddar, cynhyrchwyd laser ffibr tiwnadwy yn seiliedig ar atomau praesodymiwm a thrwy ddefnyddio neodymiwm gellir adeiladu laser pwerus iawn - mwy pwerus hyd yn oed na'r Nd:YAG ar yr un donfedd.
Un o anfanteision arferol laser tiwnadwy yw fod rhaid cael laser arall i'w bwmpio.
Defnyddir laserau tiwnadwy hefyd i chwalu cerrig yn yr arennau.