Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tollau

tollau

Hysbysodd swyddog y tollau na chaem fynd ymhellach oni fedrem ddangos darn o bapur gan y meindars i brofi nad oedd ein ffilmio wedi torri unrhyw reolau.

Nadolig Saithdeg wyth daeth nodyn i'r Plas - un swyddogol wedi'i ddanfon ar gefn ceffyl o Swyddfa'r Tollau ym Mhwllheli - i ddweud fod Capten Timothy ar hwylio o Ynys Rhode i'r Caribî, ar warthaf Comte d'Estaing a llynges Ffrainc.

Yn dilyn, ceir golwg ar dywysogaeth Llywelyn cyn y gostyngiad pryd y derbyniai arian dirwyon y llysoedd, tollau a rhenti tiroedd yn ogystal ag elw y marchnadoedd a'r ffeiriau.

Wedi'r cyfan, roedd yn rhaid i'r dawnswyr sicrhau fod ganddynt ddau o bob un o'r nwyddau gwerthfawr a brynent - un ar eu cyfer hwy'u hunain ac un arall i'w estyn yn llechwraidd i swyddogion y tollau ym Moscow.

Yn nwylo medrus Tony Jones, llwyddwyd i greu yr awyrgylch gynhyrfus briodol yn y rhan gyntaf ac i gael tensiwn rhwng y Ficer a gŵr y Tollau yn yr ail ran.