Gwelsom eisoes i fardd a oedd ymhlith y Cywyddwyr cyntaf - Llywelyn Goch ap Meurug Hen - ganu i Hopcyn ap Tomas, ond ar fesur awdl.
O ganlyniad, roedd sicrhau gwisg Gymreig i'r ddwy chwedl hyn, o bosibl i gomisiwn Hopcyn ap Tomas, noddwr dylanwadol o Gwm Tawe, yn fodd i ddarparu ar gyfer y gynulleidfa Gymraeg waith na ellir ond ei ddisgrifio fel un o bestsellers yr oesoedd canol.
Ond y pwysicaf o noddwyr y sir yn y cyfnod hwn yn ddiamau ydoedd Hopcyn ap Tomas ab Einion (c.
Enwir Lewis Tomas, abad olaf Margam cyn y dadwaddoliad, mewn cywydd a ganodd Lewys morgannwg dros Lewis Gwyn o Drefesgob i ofyn gwartheg gan wŷr o'r dalaith, llawer ohonynt yn perthyn i deuluoedd blaenllaw.
Ceir pum awdl i Hopcyn ap Tomas ei hun ac un i'w fab yn Llyfr Coch hergest, llawysgrif a ysgrifennwyd gan mwyaf yng nghyfnod Hopcyn, ac y mae'r Athro GJ Williams wedi awgrymu'r posibilrwydd mai ef a dalodd am y gwaith copio.
Ond yn ddiau coron y canu i fynachlog Nedd yw'r awdl a gyfansoddodd Lewys Morgannwg iddi yn ei ieuenctid ar y pedwar mesur ar hugain - yr oedd hyn yn nyddiau Lleision Tomas, yr abad olaf.
Yn ystod abadaeth Lewis Tomas hefyd y canodd Tomas ab Ieuan ap Rhys ei gwndid nid anenwog lle sonia am ei gysylltiad bore a Margam ac am ei ddymuniad i gael ei gladdu yno.