Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tomatos

tomatos

Ffordd arall gwbl dderbyniol yw tyfu tomatos trwy ddefnyddio potiau meddal diwaelod gan blannu un planhigyn ym mhob potyn.

Ni ddylid tyfu tomatos a chucumerau yn yr un tŷ gwydr gan fod gofynion amgylchfyd y ddau gnwd mor wahanol i'w gilydd.

Ac wedi cyfaddef bod agendor rhwng delfryd ac ymddygiad yn fy arferion bwyta, megis mewn llawer o bethau eraill, rhaid imi ganmol y bacwn a'r wy a gawsom i frecwast bob bore cyn cychwyn ar y daith, a'r bara toddion bras nad yw dietegwyr heddiw yn ei gymeradwyo, y brechdanau ham, a'r caws, a'r tomatos a'r afalau a baciwyd beunydd ar ein cyfer.

Yna, tuag wythnos cyn plannu'r tomatos, gellir taenu gwrtaith cyffredinol, yn ôl dwy owns i'r llathen sgwâr, ar yr wyneb a'i gribinio'n ysgafn i'r pridd.

Hefyd, gellir teneuo planhigion tomatos drwy eu plannu'n unigol mewn potiau tair modfedd cyn eu caledu.

Gwell, efallai, fyddai neilltuo'r tŷ gwydr ar gyfer tomatos a thyfu'r cucumerau grwn mewn rhych y tu allan.

O ddefnyddio cansenni, dylid eu gosod yn y pridd cyn plannu'r tomatos rhag niweidio'u gwraidd.

Y cnwd mwyaf poblogaidd yw tomatos a gellir cael llawer mathau ohonynt.

Mae'r tomatos yn hoffi amgylchfyd sych a'r cucumerau yn hoffi lleithder felly, ni ddylid eu cymysgu yn yr un tŷ a disgwyl tyfu'r ddau gnwd yn llwyddiannus.

Bydd y dyfrhau'n amrywio yn ôl y tywydd ond mae'n rhaid cofio bod tomatos, fel llawer o blanhigion eraill, yn ymateb yn dda i ddyfrhau a bwydo cyson.