Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

toreth

toreth

Gwrthododd toreth o Gymry adnewyddu eu trwydded deledu; arestiwyd a charcharwyd llawer o genedlaetholwyr eraill am beri difrod i drosglwyddyddion.

Mae toreth yr hysbysebion am insiwrans iechyd yn eich hatgoffa nad oes cyfle cyfartal i bob corff yma.

Gwêl ef ôl straen cynllunio gofalus ar rai ohonynt, ac mae'n cyfeirio'n benodol at y stori 'Dwy Gwningen Fechan' lle ceir toreth o gymariaethau'n dilyn ei gilydd.

Cafwyd toreth o erthyglau a llyfrynnau'n mawrygu Penri.

Bellach, mae arna i ofn, mae toreth o reolau newydd eto ar ein cyfer ni sy'n defnyddio'r ffordd fawr, a alwaf, os caf fathu ymadrodd Cymraeg, y gyfundrefn 'dirwy ar y pryd'.

Hawdd yw edmygu pob un o'r creaduriaid hyn ond annisgwyl braidd yw'r toreth o lenyddiaeth a gyhoeddwyd yn flynyddol sy'n ymwneud a hwynt.

Yn ystod ei yrfa gydag HTV Cymru, cwmni darlledu annibynnol yng Nghymru, bu'n gynhyrchydd toreth o raglenni Cymraeg ar gyfer S4C yn ogystal â chynhyrchiadau Saesneg ar gyfer HTV.

Iddo ef nid oedd holl ddysg y Dadeni, y toreth o opiniynau gwrthgyferbyniol, y llifeiriant o ddamcaniaethu athrawiaethol yn ddim ond rhwystrau ar ffordd dyn i gyfathrachu'n uniongyrchol â Duw.