Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

torf

torf

Buasai chwaraewyr 1981 yn fodlon ar berfformiad neithiwr wrth i Abertawe sgorio chwe gôl - ond o flaen torf dila.

Roedd torf o bron 26,000 yn gwylio'r gêm.

Roedd torf fawr yn ei angladd.

Mae disgwyl torf o 11,000 yn Rodney Parade a fe fydd yn dipyn o achlysur.

Yn rhyfedd iawn roedd bron pob gêm rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yn gêm ddiflas cyn amled â pheidio yn cael ei chwarae ar nos Wener o flaen torf bitw.

O flaen torf o dros dair mil, roedd Llanelli'n colli'r gêm o naw pwynt i chwech, a dim ond ychydig funude o'r gêm yn weddill, pan lwyddodd Andy Hill i groesi am gais a droswyd gan Phil Bennett, eiliade yn unig o'r diwedd.

Er i David Walsh arbed rhai ergydion yn gôl Wrecsam a Stuart Roberts yn taro'r bar roedd hi'n anodd i Abertawe o flaen torf oedd yn ddigon naturiol yn fach ac yn dawel.

Roedd torf sylweddol o bymtheng mil wedi troi i fewn i wylio'r gêm, ac unwaith eto, roedd yr arbenigwyr yn ddigon parod i farnu mai blaenwyr Castell Nedd fydde'r meistri.

Fel pe bai wedi ei ryddhau am ychydig o hualau'r drefn Sofietaidd byddai Mr Gorbachev yn gwneud yn fawr o'i gyfle i draethu gerbron torf enfawr o ohebwyr.

Roedd torf fawr arall yn Khan Younis ar Lain Gaza yn angladd protestiwr ifanc gafodd ei ladd gan filwyr Israel.

Denwyd torf o 4,000 i Gasnewydd i wylior gêm Rygn Cynghrair rhwng Warrington Wolves a London Broncos.

Roedd torf o 13,602 yn gwylio'r gêm - torf fwya'r drydedd adran y tymor hwn.

Taflu hanner torth i ganol torf o bobl y tu allan i'r orsaf a rhyfeddu at yr ymgiprys amdano ymhlith hen ac if anc.

Mi fydd yn achlysur arbennig ar Erddi Sophia ac os bydd y tywydd yn braf fe ddylse torf enfawr ddod i weld y gêm.