Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

torrodd

torrodd

Torrodd llais Mali ar draws ei freuddwydion a gwelodd fod y ferch â'r plethau wedi'i gadael.

'Mae hi'n gweithio'n rhy galed,' torrodd Megan Evans i mewn i'r sgwrs, 'yn enwedig ar ryw draethawd hanes sy ganddi.

"Ble'r aeth eira llynedd?" fydd Mam yn ei ddweud pan fydd y gacen siocled wedi diflannu i gyd a neb yn gwybod i ble!' 'Ie,' torrodd Delwyn ar fy nhraws a "Caws o fola ci% fydd hi'n ei ddweud pan ofynna i iddi am arian i brynu hufen iâ, ac addo'i thalu'n ôl yr wythnos wedyn.'

Cynorthwywyd ef i ddod allan o'r ffos gan Ernest a'r bonheddwr ieuanc, ac wedi iddo ddod ato'i hun cafodd fod ei geffyl gwerthfawr wedi torri ei goes, ac ebe Ernest: `Wel, wel, mae'r cwbl drosodd efo fo; gadewch i ni ei roi allan o'i boen,' a chan dynnu ei gyllell allan, torrodd y brif wythi%en yn ei wddf, a gwaedodd yr anifail yn fuan i farwolaeth.

Be ydi Madam Wen?' Ond cyn i ni ateb torrodd un o aelodau'r Bwrdd ar draws, 'Mr Llywydd.

Yn ei ddicter a'i wylltineb, tynnodd y crwydryn gyllell o'i boced i drywanu Idris ond torrodd honno'n ddarnau pan darodd yn erbyn y wisg ddur a oedd o dan ddillad Idris.

Torrodd Croft ei fawd tra'n maesu yn Derby ddoe.

Torrodd y llinyn brau a fu'n cadw rheolaeth ar dymer Dilwyn.

Gorfodwyd y Llywodraeth i wahodd CBAC i sefydlu Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg democrataidd, ond torrodd Wyn Roberts ei air i roi cyllid iawn i'r corff newydd.

Dihangodd Gwenfrewi rhag crafangau Caradog, ond torrodd Caradog ei phen ymaith â'i gleddyf, oherwydd iddi ymwrthod ag ef.

"Ydi," ebe'i ffrind, "Torrodd y llythrennau "DB" hefo'i gyllell boced ar un o lysiau gorau'r prifathro yn ei dŷ gwydr.

Gan dybio fod Cymreictod ar drai, torrodd y Llywodraeth newydd ei haddewid i roi ei sianel ei hun i Gymru pe câi ei hethol.

Os torrodd y modernistas trwy dir gwyryf yn eu harbrofion gyda mydrau newydd, a chydag ieithwedd a ddaeth o Ffrainc, gwnaeth beirdd y pum a'r chwedegau yng Nghymru rywbeth tebyg gyda'u defnydd o'r vers libre.

"Fydd neb yn y dref yma yn cael Nadolig llawen ..." "Heblaw am Monsieur Leblanc a'i ffrindiau," torrodd Marie ar ei draws.

Torrodd yr afiechyd poenus hwn ar draws ei efrydiau.

Casglwyd cannoedd o bunnau, digon i gadw Sarah Owen a'i chydanffodusion uwchlaw angen, ond torrodd y banc yr ymddiriedwyd y gronfa i'w ofal.

Torrodd y gangen y buont yn pwyso arni gyda chlec uchel.

Torrodd sisial ar draws y tawelwch.

"Noel, Noel..." Torrodd y côr allan i ganu.

Dinistriwyd y byd hwnnw gan y Rhyfel Byd Cyntaf, a phan oeddynt yn dechrau dadebru ar ôl y chwalfa torrodd yr Ail Ryfel Byd ar eu gwarthaf, gan chwalu'r holl obeithion am amgenach byd.

Torrodd Griffith Jones, Llanddowror, gwys newydd pan sefydlodd ei ysgolion cylchynol trwy lynu'n gyndyn wrth yr egwyddor mai Cymraeg oedd iaith yr ysgolion i fod.

Yn ddigon naturiol, pan aethom i'w golwg torrodd i wylo, ac ni allai ddweud dim am beth amser.

Pan ddaethant yn eu hôl, torrodd Mary'r newydd iddo nad oedd, wedi'r cwbl, yn mynd i fyw at Fred Bird ond bod ganddi rywun arall.

Torrodd hyn ar draws myfyrdod Elisabeth Games, merch plas Bodwigiad.

Torrodd Scott Gibbs, canolwr Abertawe, ei fys yn ystod hanner cyntaf y gêm rhwng Abertawe a Chastell Nedd yn rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi'r Principality ddydd Sadwrn.

Yn ystod yr Eisteddfod yn Abergele llynedd, torrodd Branwen Nicholas a Sioned Elin i fewn i Swyddfa Etholaeth Rod Richards, yr Is-Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig, i brotestio yn erbyn polisïau addysg y Torïaid.

Eleni, torrodd y chwiorydd dir newydd mewn ymdrech i godi arian ar gyfer coffrau'r eglwys.

Brad Wedi ennill yr Etholiad, torrodd y Llywodraeth Dorïaidd eu gair gan ddweud na byddai Sianel Gymraeg wedi'r cyfan.

"Wilias-y!" Torrodd y misus ar y distawrwydd.

Torrodd chwyrnu Bob yn gyfarth cynddeiriog.

Unwaith y torrodd y Diwygiad allan troes eu hymddygiad yn fwy gelyniaethus fyth.

Ond torrodd Gethin ar eu traws yn ffyrnig.

Mewn dychryn mawr, gwrandawodd pob un o'r dawnswyr ar ddysgeidiaeth y sant, ac er mwyn eu cadw'n Gristnogion, torrodd Samson lun croes ar y garreg.

"Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, A Ddaeth Ato Ef." Torrodd Cyllell ei gariad mwyaf cu drwy chwyd fy chwerwedd, a rhedodd allan grawn drewllyd.

"torrodd Gwyn ar ei thraws yn ddiamynedd.

'Sdim cynffon i' gael gydag Anti Meg, y crwt twp!' Torrodd sylw swta Mini ar draws fy myfyrdod.

fel tasa rhywun newydd ei golli." "A'r cŷn yn y cyntedd," torrodd Olwen ar draws.

Erbyn i'r wawr dorri roedd y gwynt wedi gostegu ac ar ôl ychydig torrodd yr haul drwy'r cymylau.