(Gwell egluro mai yn ystod yr eiliadau brau hynny y torrwyd y garw rhyngddynt.) Bu'r pryd bwyd yn eitem ddigon diflas ac roedd amryw resymau am hynny.
Ni ddilewyd yn llwyr y patrwm a'r bwriad dwyfol, ond torrwyd nod anufudd-dod ar deulu dyn.
Torrwyd ei braich, a hithau ar ei ffordd i'r feddygfa ar y pryd!
Torrwyd ein lawntiau ni am y tro cyntaf ar yr ail ar bymtheg o Ionawr eleni, eilwaith ar y dydd olaf o'r mis, dim unwaith yn ystod mis Chwefror, ni bu tyfiant yn ystod y mis hwnnw, ac yna ar y seithfed ar hugain o Fawrth.
Torrwyd y gwifrau'n ofalus ac agorwyd clawr y bocs.
Yn sydyn, torrwyd ar y sgwrs gan lais cras yn galw o fuarth yr ysgol.
Sut bynnag, torrwyd crib y gŵr ieuanc y wers ganlynol pan fethodd yn lan a dirnad pwnc bach digon syml.
Fe'i torrwyd yn ddau a rhoi'r naill hanner i'r trapiwr, a'r hanner arall i minnau.