Ni bu angen i'r Cymry wenud hyn eriod; neu, fodd bynnag, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn rhy falch o'u traddodiadau hwy eu hunain i ddymuno rhoi'r gorau iddynt a mabwysiadu dulliau a fenthycwyd o genhedloedd eraill.
Cynnwys traddodiadau Cadog Sant a Llancarfan gyfeiriadau at Iwerddon ac at saint Gwyddelig, Finnian Sant yn arbennig.
Gwelir y duedd hon ar waith yn y deunydd Arthuraidd yn arbennig, lle gellid yn hawdd greu dolen gyswllt rhwng y traddodiadau estron a'r rhai brodorol, oherwydd bod cymeriadau ag enwau tebyg iawn yn profi anturiaethau tebyg, boed eu hiaith yn Gymraeg neu Ffrangeg.
Gan fod y llywodraeth ganolog yn Delhi Newydd mor bell oddi wrthynt ac mor esgeulus ohonynt mae llawero'r casiaid ifainc yn cefnogi'r mudiad sy'n hawlio anibyniaeth wleidyddol i'w pobol - pobol sy'n ymwybodol iawn o'u tras a'u traddodiadau hynafol.
Os oedd Ystorya Trystan, neu'n arbennig y darnau rhyddiaith, wedi cyrraedd ei ffurf bresennol yn gymharol ddiweddar, pan oedd y traddodiadau Ffrangeg wedi cael digon o gyfle i ymledu, gallwn dybio fod elfennau estron wedi eu gwrthod yn fwriadol.
Gþyr pawb am y Fari Lwyd adeg y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ond mewn traddodiadau ledled y byd sy'n gysylltiedig â Chalan Mai gwelwn benglogau a masgiau anifeiliaid o bob math.
Ac felly, yng ngoleuni traddodiadau Cristionogol y canrifoedd y darllenai'r meddylwyr cyfoes - Karl Barth, Emil Brunner, Paul Tillich, Dietrich Bonhoeffer, Simone Weil, Ju%rgen Moltmann, Wolfhart Pannenberg, John Macquarrie, Helder Camara, Gustavo Gutierrez ac E. R. Norman.
Maent i gyd wedi cynllwynio i wyrdroi traddodiadau a ddylai weithredu fel y gallai dynion fyw bywydau cyflawn y tu mewn iddynt.
Yng nghanol ymosodiad ar y lleiafrifoedd ethnig yn Hwngari, enwodd Kossuth y Cymry mewn rhestr o genhedloedd bach Gorllewin Ewrop na herient iaith genedlaethol y wlad (sef y Saesneg yn ein hachos ni) ond a fodlonai ar feithrin gartref eu traddodiadau diniwed.
Mae hynny'n golygu fod cenhedlaeth yn codi sy'n hynod anwybodus am y Beibl a'i athrawiaethau ac am y traddodiadau Cristionogol sydd wedi cyfrannu mewn ffyrdd mor gyfoethog at fywyd Cymru.
Byddai bywyd cenhedloedd Ewrop a'r byd hefyd rywfaint yn dlotach, canys y cyfraniadau a ddaeth trwy'r traddodiadau cenedlaethol a gyfansodda wareiddiad Ewrop.
Ond beth yw cysylltiadau Santes Dwynwen â chariadon, ac i ba gyfnod y perthyn y traddodiadau hyn?
Unir aelodau'r gymundod hon gan eu hanes - sef y profiad o gydfyw am ddwy neu dair mil o flynyddoedd ar y penrhyn a alwn yn Gymru; a hefyd gan ffactorau eraill sy'n cynnwys eu traddodiadau, a'r iaith Gymraeg yn bwysicaf yn eu plith; gan batrwm diwylliannol unigryw; gan sefydliadau crefyddol, diwylliannol, cymdeithasol (yn arbennig eu tîm rygbi), ac, yn awr eto, gan rai gwleidyddol; a chan yr ymwybyddiaeth o'u Cymreictod.
Ond lle mae'r ffin rhwng helpu rhywun ac ymyrryd â'u traddodiadau a'u diwylliant?
Maen nhw'n dal i lynu wrth eu traddodiadau rhyfedd.
Trwy'n llwyddiant yn Mallorca a Llangollen mae wedi dod â chlod byd-eang inni ac i Eirlys Britton fel hyfforddwraig gyda'r weledigaeth a'r gallu i dynnu allan ohonon ni rhyw ysbryd cyntefig o'r gorffennol fel dawnswyr, a chyflwyno traddodiadau dawns Cymru mewn ffordd chwaethus a medrus i safon aruchel.
Y mae'r ffaith hon, ynghyd â theneuwch y dystiolaeth hanesyddol am Arthur, wedi peri'n ddiweddar i rai ygolheigion droi'n ôl at y farn a gyhoeddwyd gan Syr John Rhŷs ganrif yn ôl, sef fod seiliau mytholegol yn gorwedd y tu ôl i'r traddodiadau amdano.
Mynnodd rhai ysgolheigion fod awduron y Cyfandir wedi benthyca traddodiadau Celtaidd wrth gyfansoddi eu rhamantau am y ddau gariad, gan gymharu'r rhamantau hynny nid yn unig â'r deunydd prin yn y Gymraeg ond hefyd â chwedlau tebyg yn yr Wyddeleg.' Ar y llaw arall, mae dyddiad ansicr Ystorya Trystan yn ei ffurfiau presennol yn codi cwestiynau ynglŷn â phosibilrwydd dylanwad Ffrangeg ar ddatblygiad chwedl Trystan ac Esyllt yng Nghymru.
'Rwyf wedi ceisio fy nhrwytho fy hun yn hanes a thraddodiadau Cymru, ond 'rwy'n bur ymwybodol o'r modd y mae'r byd cyfoes, cosmopolitaidd wedi chwalu'r traddodiadau yna.
Ym mywyd yr hen ŵr hwn mae'r traddodiadau y seiliwyd diwylliant ac economeg y gors arnynt wedi'u gwyrdroi.
Bu'r Eglwys yn ffodus drachefn i sicrhau teulu a ddymunai barhau traddodiadau gorau'r gorffennol.
Y mae ein dyled ni'r Cymry'n ddwfn i'r bobl a'r mudiadau a frwydrodd yn ddiymarbed dros y blynyddoedd i sicrhau na châi'r cyfrwng cyfathrebu pwerus a dylanwadol hwn foddi ein hiaith a'n diwylliant a'n traddodiadau cenedlaethol.
Nid tasg syml serch hynny yw diogelu traddodiadau, meithrin hunaniaeth, meithrin perthynas effeithiol efo gwledydd y Gorllewin a'r Dwyrain a sicrhau ffyniant economaidd wrth ddiosg yr hualau Sofietaidd.
Ar y cyfan, traddodiadau mewnblyg sydd i'w canfod yng Nghymru.
Symbol ffalig a ffrwythlondeb a'r darnau arian (fel yn ôl traddodiadau'r Rhufeiniaid) yn cadw i ffwrdd yr ysbrydion aflan.