Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

traeth

traeth

Yn y blynyddoedd hynny byddai llawer yn mynd i'r traeth o ddiwedd Ebrill hyd ddechrau Mehefin i ddal llymriaid, a chawn innau godi gyda'r wawr i fynd efo 'Nhad - y fo yn palu efo fforch datws a minnau'n dal y llymriaid arian, gwylltion a'u rhoi yn y bwced.

Yr ochr arall i'r lon i giat y Pandy mae fferm Glanrafon, ac ychydig i fyny oedd y Bull Inn, a gedwid gan John Thomas, a pherthynai y dafarn yr amser honno i Mr Lambert, gwr bonheddig oedd yn byw yn Tanygraig, Traeth Coch, ac mae gennyf gof amdano yn dod i'w oed yn un ar hugain, yn cael ei dynnu mewn cerbyd gan ddynion ifanc, ac rwy'n cofio bod pont o flodau ger y Pantom Arms.

CEMAES - ARWYR NORMANDY: Dewiswyd traeth Cemaes yn un o'r ychydig drwy Gymru i fod yn fan cyfarfod i gofio am y glanio beiddgar hwnnw yn Normandy hanner can mlynedd yn ol.

Traeth; Aberystwyth v Barcelona ar faes Park Avenue - dyna'r gemau sydd yn yr arfaeth ac sy'n tynnu dþr o ddannedd, bid siŵr.

Mae rhaid cofio fod yma ddathliad arall sy'n llawer mwy priodol i'r Gwladfawyr - Gwyl y Glaniad, ar Orffennaf 28 i ddathlu glaniad y Cymry cyntaf ar y traeth ym Mhorth Madryn.

Cawn wybod ar ôl i rywun ddod yn ôl o'r traeth.

Bydd miwsig Calypso i lonni ei feddwl drwy gydol y dydd, o dan y palmwydd, ar y traeth, yn y pwll nofio, yn wir, lle bynnag y bo.

Tybed ydy William Thomposon, Moelfre, yn cofio'r nos Sadwrn honno y cerddodd nifer ohonom ar hyd y traeth o Draeth Coch i Fenllech.

Gellwch gerdded yn hawdd o aber yr afon Ogwr ar hyd y traeth am tua dwy filltir a hanner nes cyrraedd Trwyn y Witsh dan Gastell Dunraven.

Mae Southerndown yn le da i ni ddechrau ar ein taith oherwydd fod y creigiau ger y traeth yn hawdd eu gweld mewn haenau amlwg.

Gadael y traeth yn sydyn am fy mod yn dychmygu bod tonnau'r môr yn adleisio galargan i'r sawl sydd dan faich, ond hwyrach mai o Iwerddon y dôi'r dagrau, am fod y wlad anobeithiol honno mor agos i'r traeth yma.

Cafwyd noson na ddymunai neb ei chofio ar y traeth y noson honno.

Ceir cryn bosibiliadau ar gyfer datblygu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau unigol, megis ystlumod a gwenoliaid y traeth drwy weithredu codau ymarfer, ac enillwyd profiad helaeth iawn yn yr Adain i hyrwyddo'r amcanion hynny.

Y môr yn gynnes a llawn heli cryf wrth inni nofio'n hyderus tuag at y dwr brown yn ein gwahodd ni tua'r traeth a gweld eglwys wen, fechan, ar y lan.

Wrth gerdded tua'r goleudy gwelodd y dyn Doherty ymhell, bell, allan ar y traeth yn brysur hel cocos neu gregin i'w sach.

Yr haul a'r gwynt a'r traeth yn gynnes gynnes - y gwynt di-dor!

Cychwynnodd y pedwar eu ffordd i fyny'r traeth am y gwesty.

Draw ar y traeth i wrando ar yr adar yr ysai hi am fynd, nid i gyfarfod cyhoeddus lle byddai pawb yn baldorddi ac yn cecru am y gorau.

Dro arall yn dod ar draws cragen fregus cranc y traeth, neu bwrs y for forwyn a'r trysor pennaf ganddynt fydd gwalc ddi fefl.

Roedden ni wedi dechrau amau Twm Dafis, ydych chi'n gweld, rhwng y rhybudd gwirion roddodd o inni gadw o'r ynys, a'r bechgyn yn ei weld yn dod o gyfeiriad y traeth ben bore, ac Olwen wedyn yn ei weld yn mynd a'r sachaid bwyd o un o gytiau Cri'r Wylan .

Tra eich bod wrthi, sylwch hefyd fod darnau mawr o dywodfaen frown i'w gweld ar draws y traeth, a bod olion crychdonni'r Môr Triasig yn ogystal ac olion craciau a wnaethpwyd yn y mwd wrth iddo sychu dan yr haul Triasig tanbaid.

Cyrhaeddwyd y traeth yn gynt felly, ac roedd y llwybyr ar y goriwaered.

Erbyn y prynhawn, fe giliodd y tonnau ac felly draw a ni hyd ehangder y traeth tua Llanddwyn.

Dechreuais ymesgusodu eto - ond ymlaen yr aeth Emli, fel llanw'r mor ymhlith cestyll tywod y plant ar y traeth.

Cer di ddigon pell 'ta, Morys Wyllt, dos, draw am y traeth â chdi lle galla'i dy weld di'n corddi'r tonnau.

Uwchben yr haenau du yma o esgyrn mae carreg galch a sial y creigiau Lias i'w gweld, ac yn wir, mae yna lwybr o'r traeth sy'n arwain i fyny'r clogwyn ar y garreg galch.

Fe gymerodd y fordaith yn ôl o Portsmouth i'r Traeth Mawr yn agos i dair wythnos, gan i'r gwynt fod yn wrthwynebus a'i gorfodi i lanio ddwywaith cyn cyrraedd pen y daith.

.' Ac yn araf a digalon (yn ogystal â sychedig) ymlusgodd pawb tua'r traeth.

Ond yn troi'n win blasus - o brynu potelaid gan un o'r hen ddynion wyneb-lledr a mwstas Stalinaidd, gwyn, a chap stabal am ei ben, sy'n eistedd yng nghysgod olewydd efo rhesiad o boteli, heb labelau, ar wal wen isel ger y traeth.

Bydd pioden y mor a'r pibydd coesgoch i'w weld yn pigo ar y traeth, a hwyaid, mor wenoliaid a gwylanod ar y tonnau.

Traeth Enlli?

Fe dreulies i lawer o'm amser yn ymarfer ar y traeth bach oedd yr ochor arall i'r hewl i stad Glan-yr-ystrad, ac wrth gwrs, roedd un o'm ffrindie gore, Wyndham Morgan, a'i wraig Millie, yn byw ar yr un stad--ynte yn chware erbyn hyn i'r tîm ifanc lleol.

Bu'n ddigon ffodus i gael teithio ar long y Capten Morfa Williams o Gaernarfon - un o Anghydffurfwyr selocaf y dref honno - a hwyliai o'r Traeth Mawr, a chael gofal caredig y Capten a'i briod gydol y siwrnai hir.

A'r môr yna wedyn, yn cropian i fyny'r traeth yn ddireidus i gosi bysedd eich traed a gwneud i chi hel eich paciau i rywle arall.

Gan fy mod wedi sôn yn barod am yr alabaster ar draeth Penarth, efallai mai yno y dylem fynd nesaf gan gerdded i lawr i'r traeth o'r maes parcio.

Ond doedd dim golwg o'r cychod ar y traeth.

Ddim yn un o'r rheini ar y traeth 'na, neu falle fod pethe'n newid iddyn nhw 'fyd ...

Fe ges i fraw pan welais eich gwely chi'n wag..." Hyd hynny, roedd hi wedi meddwl mai ei gweld hi ar y traeth a wnaeth, ar ôl mynd i'r feranda o'r ystafell fyw.

I arbed troedio yr un llwybr yn ol ewch trwy'r bwlch yn y twyni rhyw ddau can llath wedi troi ar hyd y traeth, a gallwch gerdded trwy'r coed yn ol at y maes parcio, gan gofio troi i'r dde, neu fe ddeuech allan yn Niwbwrch!

Arferai Hugh Owen Talgwyn Isaf gario "visitors" o Lerpwl, Manceinion a Chaer yn ei "waggonett" dau geffyl o Stesion Pentraeth i'r Traeth Coch am ychydig sylltau, a'r un modd o'r Benllech gan fod tua hanner milltir i'r pentre pryd hynny, ond sydd erbyn hyn yn dref reit dda.

Felly, yn naturiol, roedd yn rhaid i ni wneud' y ddinas - y ty opera, traeth Bondi,safle yr Olympics yn Homebush ar Blue Mountains.

Sioc oedd gweld pa mor bell oddi tano yr oedd y traeth.

Aeth i lawr i'r traeth; ac yno fe ddechreuodd chwarae gyda merch fach ryw chwech oed o'r enw Linda.

Wedi ymdrech fawr, llwyddwyd, o'r diwedd, i gyrraedd y traeth a gwelai pawb y cychod.

Gwyddai na fyddai byth yn medru dringo i lawr i'r traeth drachefn.

Cododd Ibn a cherdded gyda'r capten ar hyd y traeth: 'Rydan ni mewn helbul .

Wrth ei dwyn i gof wedi i mi roi yr Herald i lawr ceisiais gofio pwy oedd yr hogiau ar y traeth.

Mi fu staff Asiantaeth yr Amgylchedd ar y traeth yn tynnu lluniau'r gwymon ac yn holi'r staff.

Gellwch gasglu'r alabaster sydd wedi syrthio o'r clogwyn ar y traeth.

Hanes Megan yn mynd am wyliau i Abergwaun at ei thaid sydd yma, lle mae'n gallu gweld y llongau'n hwylio am Iwerddon a breuddwydio am ddod o hyd i neges mewn potel ar y traeth.

(iii)Uwchraddio croesfan Y Traeth, Porthmadog Cyflwynwyd llythyr gan y Cyngor hwn ynglŷn â'r mater.

Pan welwn nhw felly'n ymfyddino, a Thalfan yn agosa/ u fel rhyw Urien Rheged i'm cyfarch a'm herio â chawod o regfeydd, hiraethwn am ddihangfa, a dychmygu fy hun yn neidio ar un o'r beiciau a phedlo nerth fy nghoesau nes cyrraedd diogelwch tangnefeddus y dref, y traeth neu'r foryd.

(ii) Bod y Prif Swyddog Cynllunio i gadw gwyliadwraeth ar y datblygiadau ar groesfan Y Traeth, Porthmadog a'i fod i anfon llythyr at y Rheilffyrdd Prydeinig os na fyddai unrhyw ddatblygiadau yn cymryd lle yn y dyfodol agos.

Wedi cyrraedd y ffordd uwch ben y traeth taflodd Doctor Treharne lygad yn ôl ar y tŷ ar ben y graig.

Roedden ni'n ffilmio yn ei chysgod hi ar y traeth pan waeddodd ein gyrrwr arnon ni i symud yn gyflym.

Roedd y bobl ar y traeth fel morgrug.

Byddai llawer o ardal Mynytho, ddwy neu dair milltir i ffwrdd, yn cerdded i'r traeth i'w hel hefyd.

Daethpwyd o hyd i olion deinosoriaid ar hyd y traeth yma, felly, Iwc dda i chi wrth edrych o gwmpas - efallai y dowch chi o hyd i ddarn o un o'r ymlusgiaid mawr!

Fe ddowch at llwybr canol yn awr a digonedd o flodau i'w gweld yn yr haf cyn cyrraedd yn ol i'r traeth.

Doedd r y traeth i'w rannu gyda hi.

Byddwn yn eich argymell i gerdded ar hyd y traeth hir cyn belled â Lavernock er mwyn gweld y modd mae'r graig Rhaetic o'r cyfnod Triasig yn gostwng yn y clogwyni i lawr i'r traeth.