Mewn un angladd wrth ddarllen Salm y Bugail, fel hyn y traethodd y doctor: 'le, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf newid' (Pan dery angau, un wedd ar y brofedigaeth yw'r newid sy'n digwydd i'r holl dŷ mewn cegin a pharlwr a llofft, newid sy'n syfrdanu.) Ni wn ai o fwriad ai trwy ddamwain y rhoes y meddyg dro mor annisgwyl i'r gair, ond roedd ei glywed yn gynhyrfus o newydd: 'Nid ofnaf newid.' Roedd Doctor Jones yn ŵr pur grefyddol ei natur, ac ar ambell Sul byddai'n pregethu hwnt ac yma yn eglwysi'r fro.
Ym mlwyddyn cyhoeddi Enoc Huws traethodd rhyw ysgrifennwr dienw yn huawdl ar y testun 'Merched Cymru yn Lloegr a'u peryglon' ym misolyn Pan Jones Cwrs y Byd.