Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

traethu

traethu

Pan yw'n gwneud gosodiadau cyffredinol am lenyddiaeth, ei duedd yw pwysleisio elfennau fel crefft a deall, ond wrth drafod llenorion unigol, y maent yn aml yn ei gario ar donnau angerdd nes ei fod yn traethu ar ddwyster eu gweledigaeth o fywyd.

Cofiaf wylio cynnwys y llyfr hwn mewn cyfres faith ar y teledu sbel yn ol a James Burke yn traethu gyda huotledd wrth bicio o wlad i wlad i gyfleu ei syniadau am hanes gwareiddiad.

Yn gyntaf, y byddai Mr Rogers, bum mumud ar ol i mi ddechrau traethu, mewn trwmgwsg mawr mesuredig (mesuredig oherwydd byddai'n dihuno'n ddi-ffael ryw hanner munud cyn diwedd y ddarlith).

Cefais hwyl garw yn gwrando arno'n traethu am ei ddyddiau yn Llanrwst - ond yr oedd rhai agweddau ar y sioe yn crafu, braidd.

Aeth i ffair Fawrth y Cerrig, lle roedd show fawr, a'r showman ar lwyfan o'i blaen yn traethu am y rhyfeddodau oedd i mewn, mewn rhaff o Saesneg mor rhugl â Phistyll Sibyl.

Er bod Bedwyr wrthi'n traethu cerddodd Mrs R____ ar hyd yr ale/ i'r tu blaen, eistedd, edrych i fyw ei lygaid, a cherdded allan ar ei hunion y ffordd y daeth, gan ddweud wrth geidwad y drysau y tybiai hi mai DLlM a gyhoeddwyd i ddarlithio yno: "Dw-i wedi clŵad hwn o'r blaen." BLJ ei hun a ddywedodd y stori wrthyf i, gyda'r afiaith arferol hwnnw a gyffroai ei aelodau i gyd.

"Stopa'r blydi bugle 'na, Cadwgs, neu mi fydd yr ast yma mas trwy'r blydi chimli." Ar achlysur arall roedd yr hen frawd yn traethu'n huawdl am berthynas a oedd yn bopeth ond dirwestwr.

Wel arhoswch chi, gadewch i mi feddwl am chwedl arall ichi..." Tyrrodd y plant o'i gwmpas a thoc dyma'r hen wr yn dechrau traethu - ac o, roedd hi'n hawdd gwrando arno!

Carwn fedru dyfynnu'r frawddeg ar y cof a dyma ymgais: 'Roedd prif broffwyd llyfrgellwyr Lloegr, a pherson a edmygwn i mor fawr, wedi traethu gwirionedd!

Ond nid traethu diflas ond yr hyn y gellir ei weld o'r tu ôl i lens Camera a geir yma.

Y mae mor anodd gallu dirnad bellach pam yr oedd y genhedlaeth honno'n dotio clywed Christmas Evans a'i gyfoeswyr yn traethu.

Tydi hi ei hun wedi traethu digon am y cyfnod?