Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trafnidiaeth

trafnidiaeth

Y bwriad oedd cynnal yr Eisteddfod yn Llangefni, ond bu'n rhaid ei symud i Fangor ar gais y Gweinidog Trafnidiaeth.

Ac o ddechrau mis Awst, aeth trafnidiaeth Llundain yn llonydd pan ddilynodd y gweithwyr arweiniad Ben Tillett.

Gweithred gyntaf Cymdeithas yr iaith Gymraeg pan rwystrwyd trafnidiaeth ar Bont Trefechan, Aberystwyth.

'Roedd y rhaglen gyntaf i gyflwyno'r pwnc, trwy gymharu cyfoeth a thlodi a thrwy gyflwyno y syniad o'r hyn sy'n normal - amgylchiadau a sefyllfaoedd y byddem ni yma yng Nghymru yn ystyried yn normal ond sy'n hollol wahanol i'r hyn a ystyrir yn normal yn y byd ar y cyfan yn nhermau incwm, tai, trafnidiaeth, hyd oes ac yn y blaen.

"Yr oedd yr hen orsaf wedi disgyn o dan y safon ers llawer dydd ac os oedd gorsaf newydd am gael ei hadelladu, yna'r amser gorau i wneud hynny oedd tra bod y gwaith ar yr ysbyty ei hun yn cymeryd lle." "Os buasai'r orsaf yn cael ei hadeiladu ar ôl i'r ysbyty newydd gael ei hagor, buasai ail-wneud cynlluniau, rhoi y gwaith allan i dendar a'r anhwylusder trafnidiaeth ar y safle yn golygu y buasai wedi costio mwy na'r angen.

Byddai'n pentref ni wedi ei ynysu a dim trafnidiaeth o gwbl hyd y fan a'r lle.

Ond, fel y sylwais neithiwr, nid yw trafnidiaeth India mor gwbl wallgof a thrafnidiaeth Jamaica, nac mor oeraidd-drahaus a thraffig Ewrop.

(c) Mesuriadau Rheoli Trafnidiaeth, Beddgelert CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar lythyr a dderbyniwyd gan Gyfarwyddwr Priffyrdd y Cyngor Sir yn rhoddi manylion am fwriad y Cyngor Sir i gyflwyno gorchymyn traffig er gwella'r tagfeydd a rhwystrau a oedd yn bodoli ar rai strydoedd yn y pentref ac yn gofyn am sylwadau'r Cyngor hwn.

Penodi James Griffiths yn Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru gyda sedd yn y 'cabinet'. 'Roedd y Swyddfa Gymreig newydd â gofal am dai, llywodraeth leol, trafnidiaeth ffyrdd a rhai agweddau ar gynllunio lleol.

Gwelwn blismon yn cyfeirio trafnidiaeth ar stryd brysur, ac groesais ato rhwng y ceir.

Yn ôl Alun Jones, Cadeirydd y pwyllgor cae a phabell, trafnidiaeth a pharcio, y mae hyn eto yn gam i hwyluso llif y traffig i Glynllifon gan mai ond un fynedfa sydd i'r maes.

Yno roedd traddodiad biwrocrataidd cryf o blaid yr Almaeneg, iaith y brifddinas, trafnidiaeth a masnach.

Trefnir y daith dan arweiniaeth World Challenge Expeditions Ltd, y nhw sydd yn gyfrifol am drefnu trafnidiaeth, llety, tywyswyr lleol ac ati.

Bydd y llyfr o gymorth mawr i dorri sawl dadl pwy sy'n gyfrifol am beth - rhieni'r briodferch i dalu am ffotograffydd, trafnidiaeth, y wledd ac ati er enghraifft ond y gwr yn gyfrifol am daliadau yn gysylltiedig a chapel, y modrwyau a blodau i'r briodferch, y morynion a'r ddwy fam ond nid y blodau sy'n rhan o'u haddurniadau.

Daeth ei chlust yn gyfarwydd a sŵn trafnidiaeth ddieithr yr adeiladwyr yn rhygnu i fyny'r feidir.

Rhaid ystyried trafnidiaeth hefyd wrth ymdrin â dirywiad yn yr ardal.

O ddifrif, wrth gwrs, mi ddylai pawb ohonom wneud mwy o ymdrech i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Ar ôl sefydlu Cyngor Addysg Democrataidd dylai'r Cynulliad fynd ati i sefydlu Fforymau Cenedlaethol eraill mewn meysydd fel Tai, Iechyd, Gofal, yr Amgylchedd, Trafnidiaeth, yr Economi a.y.b.