Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trafodaeth

trafodaeth

"Fe hoffwn i weld trafodaeth yn digwydd ym Methesda ar y pwnc hwn," meddai Elinor Ellis Williams o Stryd Grey.

A chyda'r Trefnydd Busnes, Andrew Davies, yn cyhoeddi y cynhelid trafodaeth ar bwnc cig eidion ar yr asgwrn cyn gynted a bo hynny'n briodol daeth y sesiwn cyntaf - dof a digon anniddorol mewn gwirionedd - o gwestiynau i'r Prif Ysgrifennydd i ben.

Gyda'r gwin (y Pino-shite o Chile) bellach yn llifo, cafwyd trafodaeth hir a ffyrnig hyd yr oriau mân ar safonau newyddiadurol yng Nghymru.

cofnodion pob trafodaeth, penderfyniad a deddfwriaeth eilradd a chynradd yn y Cynulliad i fod yn ddwyieithog, gan gynnwys yr Hansard.

Lluniwyd 'Datganiad Egwyddorion' er mwyn ysgogi trafodaeth a symud ymlaen tuag at greu Cyngor Cymraeg ei gyfrwng yn Sir Gâr.

Cafwyd trafodaeth hefyd yn y cyfarfod hwnnw am sefyllfa'r ystafell yn y Bala; dywedodd Mr Hughes a Mr Matthews y byddid yn adolygu'r sefyllfa mewn cyfarfod dilynol i weld fedrid cael ystafell arall ar gyfer cyfweliadau yn unig.

Cafwyd trafodaeth gadarnhaol ar nifer o bwyntiau gan gynnwys rhoi proffeil iaith i holl swyddi staff y Cynulliad, sicrhau bod modd i holl aelodau'r staff a'r aelodau etholedig ddysgu Cymraeg neu loywi eu Cymraeg a hynny yn y Cynulliad ei hun yn ystod oriau gwaith, a rhoi statws llorweddol i'r iaith Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Fe lwyddodd y Gymdeithas i amharu'n ddifrifol ar y cyfarfod hwn a bu trafodaeth breifat rhwng Sioned Elin, cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin, a Meryl Gravell, arweinydd y Cyngor.

Y mae'r bobl a wrthsafodd y demtasiwn yn dra arwyddocaol yn ein trafodaeth ni'n awr.

I ffurfio Cynllun Addysg Cymunedol -- mewn trafodaeth a phawb yn y Sir, i ddamgos sut y gall pob ysgol, coleg a mudiad gwirfoddol gydweithio â'i gilydd.

Ar ôl trafodaeth, penderfynwyd y dylai swyddogion y rhanbarth fynd yno i siarad ag aelodau'r gangen cyn cau yn swyddogol.

ADRODDIADAU ERAILL ADRODDIAD YR IS-BWYLLGOR CYMRAEG Cyfarfu'r pwyllgor bum gwaith yn ystod y flwyddyn yn ogystal a threfnu dau gyfarfod arbennig gyda swyddogion CCC Cafwyd trafodaeth gyda George Owen, Swyddog Drama C.Dd.C a'r Eisteddfod Genedlaethol, a theimlwyd fod gwelliant cyffredinol yn y trefniadau ar faes yr Eisteddfod ond fod gofyn trafodaeth bellach am rai elfennau.

Wrth gyflwyno'r gwaith gyda cherddoriaeth ledrithiol a'r masgiau, wrth olygu o Ifans i'r doliau'n syllu neu'n crechwenu arno, roedd hi'n bosibl ymateb yn llawn i'r ffaith mai llun i'w ddehongli oedd yma ac nid trafodaeth ymenyddol.

Hyderwn y bydd cyhoeddi'r ddogfen hon -- law yn llaw â dulliau eraill o weithredu -- yn sbarduno trafodaeth ac yn ennyn cefnogaeth i ddeddfu er mwyn gosod seiliau cadarn i ddatblygu'r iaith Gymraeg yn iaith genedlaethol, fyw i Gymru gyfan fel rhan o'r broses ehangach o ddemocrateiddio ein gwlad.

Er mwyn hyrwyddo trafodaeth o bynciau yn Gymraeg nad yw'n arfer cael eu trafod yn Gymraeg, gellid sicrhau bod geirfâu o dermau perthnasol yn cael eu cylchredeg ymhlith yr aelodau a'r cyfieithwyr.

Ar dudalennau'r Llenor, gydol y dauddegau a'r tridegau, cynhaliwyd trafodaeth ar Hanes Cymru, hanfodion Cymreictod a pherthynas Cymru ag Ewrop rhwng Saunders Lewis ac Ambrose Bebb ar y naill law, y ddeheulaw, a W. J. Gruffydd ac R. T. Jenkins, ar yr aswy.

Cychwynnodd y ddadl ar dir y gwahaniaeth rhwng clasuraeth a rhamantiaeth ac ymledodd gydag amser i gwmpasu trafodaeth ar werthoedd moesol.

Cafwyd trafodaeth ar y materion canlynol - (i) Maes parcio gorsaf Porthmadog Datganodd swyddog o'r Rheilffyrdd Rhanbarthol bod maes parcio yr orsaf yn rhy fawr ar gyfer y defnydd a wneid ohono fel maes parcio ar gyfer pobl a ddefnyddiai'r tren.

Yn dilyn ei anerchiad fe geir trafodaeth o dan gadeiryddiaeth Alun Llwyd, Is Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

* cofnodwch brif bwyntiau eich profiad a nodwch unrhyw faterion sydd angen trafodaeth neu eglurhad pellach arnynt yn ystod unrhyw sesiwn adolygu gyda'ch person cyswllt.

Jenkins a thestun ein trafodaeth, sef, 'bod Saunders Lewis yn Ewropead Cymreig mawr'.

Mewn cyfarfod diweddar o Bwyllgor Rhanbarth Arfon cafwyd trafodaeth ar y Cyngor Cenedlaethol.

Gweithgaredd: Cafwyd trafodaeth yngl^yn a chynnal gweithgaredd rhanbarthol a phenderfynwyd trefnu Sioe Ffasiynau ym mis Ebrill.

Ceisiadau am gymorth ariannol: Yr oedd amryw o lythyrau wedi dod i law a chafwyd trafodaeth ynglŷn â pholisi rhannu arian.

Un arall sydd ddim yn mynd yw Cyng Ioan C Thomas, a dywedodd nad oes unryw gyfarfod wedi cael ei gynnal ynglŷn a'r mater heblaw trafodaeth yn y cyngor pan benderfynwyd na fyddai'r cyngor yn dathlu'r Arwisgo.

Os felly, oni fyddai'n briodol yn y bennod ar Feibl Morgan Llwyd cynnwys trafodaeth estynedig ar y thema hon?

Yng Ngþyl y Gelli eleni, yn nghwrs trafodaeth fywiog ar y diwydiant ffilm yng Nghymru, fe fu cryn drafod ar y ffaith mai 'llenyddol' iawn yw ffilmiau Cymraeg.

Yn ogystal â'r darllediadau a ddarparwyd gan Newyddion, ymhlith rhaglenni eraill roedd Trafodaeth Etholiad ‘99, Etholiad ‘99 a'r A-Y y Cynulliad bywiog ac amharchus.

Mewn trafodaeth ar y mater hwn yn y dyfodol, ni fydd y Llywydd yn gallu bod yn amhleidiol wrth lywio trafodaeth i bwyso ar y Cynulliad i gefnogi'r alwad am Ddeddf Iaith.

defnyddio taflenni gwaith, cwestiynau, gweithgareddau trafodaeth, perthynas i waith ymarferol.

Cafwyd trafodaeth frwd ar y pwyntiau uchod yn y cyfarfod ar yr 2il o Chwefror, a phenderfynwyd fod y mater yn haeddu trafodaeth bellach mewn Is-Bwyllgor Ymgynghorol.

Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn poeni o hyd na chynhaliwyd trafodaeth lawn eto yng Nghymru am yr opsiwn newyddion integredig, ac y bu diffyg data monitro rheolaidd.

Yn wyneb y bygythiad hwn, darbwyllwyd y Llywodraeth i newid ei meddwl a chaniatáu sefydlu S4C ar ôl trafodaeth rhwng yr Ysgrifennydd Cartref a dirprwyaeth a ffurfiwyd yn Eisteddfod Dyffryn Lliw, dan arweiniad Cledwyn Hughes.

Mae Deddf Iaith 1993 San Steffan wedi profi yn hynod ddiffygiol,ac mae disgwyl mawr bellach ar i'r Cynulliad gael trafodaeth lawn ar y mater.

Mae'r Gymdeithas yn awr yn gobeithio cwrdd â Meryl Gravell ar 21 Chwefror er mwyn cael trafodaeth bellach ar y materion hyn.

A hithau'n ysgolhaig eang ei gwybodaeth, diau y gall y gyfrol hon fod yn fan cychwyn trafodaeth ddwys mewn colegau ac ymhlith ysgolheigion - o'u safbwynt hwy bydd yn ychwanegiad buddiol at - ac yn grynhoad gwerthfawr o'r drafodaeth a fu hyd yn hyn.

Pecyn o bum sgets fer ar gyfer sbarduno trafodaeth yng Nghyfnod Allweddol 3.

Papur Ymgynghorol ar Ardaloedd Cadwraeth oedd yr ail ddogfen a dderbyniwyd a oedd wedi ei pharatoi yn arbennig er ennyn trafodaeth ar yr angen am reolaeth cynllunio tros ddatblygiadau bychain oddi mewn i ardaloedd cadwraeth.

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â dileu'r gwasanaeth tren olaf o Bwllheli a datganwyd bod hynny'n creu anawsterau i ddefnyddwyr lleol.

Mae angen mwy na hynny mewn trafodaeth drwyadl a chytbwys ar drothwy rhyfel.

Yn ogystal âr darllediadau a ddarparwyd gan Newyddion, ymhlith rhaglenni eraill roedd Trafodaeth Etholiad 99, Etholiad 99 ar A-Y y Cynulliad bywiog ac amharchus.