Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trafodaethau

trafodaethau

Rhoddwyd amser ac egni oddi ar hynny i ddilyn yr argymhellion hyn gan gynnal trafodaethau â chyrff megis Cyngor Ieuenctid Cymru.

Ond nid yw'r un o'r trafodaethau rhwng Gwylan a Harri yn trafod sut y newidir y gymdeithas gyfalafol i fod yn un Gomiwnyddol.

Gyda dyfodol y Wembley newydd yn y fantol, mae Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru Dennis Gethin wedi dweud y bydd yr Undeb yn cynnal trafodaethau â'r Gymdeithas Bêl-droed ynglyn â'r posibilrwydd o ddod a mwy o brif gemau pêl-droed Pydain i Gaerdydd.

A nodir trafodaethau rheolaidd gyda rhieni yng nghofnodion yr ysgol?

Davies yn parhau gyda'i ymdrech heddwch ac Undeb yr Annibynwyr yn pledleisio o blaid trafodaethau heddwch.

Dywedodd ysgrifennydd y Gymdeithas, David Collins, oedd yn y cyfarfod y bydd swyddog UEFA, Lars Christa Olsen, yn llunio adroddiad am y trafodaethau.

Mae gweithgor wedi ei sefydlu ar y cyd rhwng y tri awdurdod yn barod ond hyd yma nid oedd y Cyngor Sir wedi ymuno yn y trafodaethau, er bod Pwyllgor Polisi'r Cyngor Sir yr wythnos hon wedi argymell iddynt ddechrau cydweithredu.

Gwnaed y cyhoeddiad heddiw (dydd Mercher 29 Medi) y byddai yna rai rhaglenni Cymraeg ar S4C o Gwpan Rygbi'r Byd, a hynny yn dilyn trafodaethau manwl yn ystod yr wythnosau diwetha'.

Gallaf gydymdeimlo â chyfieithwyr yn yr Alban a fu mewn dyfroedd dyfnion yn ystod trafodaethau'r senedd yn diwygio Cymal 28 yno.

Buwyd yn cynnal trafodaethau gyda'r rhai sydd ynglyn ag Arweiniad Gwledig yr Awdurdod Datblygu fel y medrwn gymharu'n gweithgareddau a cheisio cyd-weithio'n fuddiol.

Y perygl amlwg o gyfyngu trafodaethau ar y Gymraeg i un Pwyllgor Pwnc yn unig yw mai dim ond trafodaethau yn ymwneud â statws yr iaith a hawliau ieithyddol siaradwyr unigol fyddai'n cael eu hamlygu.

Adroddodd bod trafodaethau gyda chwmni penodol a'u bod yn argoeli'n dda am gael cytundeb gyda'r cwmni.

Gellir defnyddio'r llyfryn hwn i ddarparu cofnod o'r trafodaethau yn ymwneud â'ch lleoliad.

A gwaeth na hynny yng ngolwg y llywodraeth oedd fod swyddogion y dref yn cymryd rhan yn y trafodaethau ac yr oedd y Frenhines yn bendant iawn na ddylid annog lleygwyr i fusnesu mewn materion eglwysig.

Bydd Cunningham a Iestyn Harries yn cael trafodaethau pellach gyda Graham Henry ar ôl Cwpan y Byd y gêm tri-ar-ddeg.

Yn y prynhawn, bu trafodaethau mewn grwpiau a chafwyd adroddiadau ac argymhellion gwerthfawr iawn oddi wrth y cynrychiolwyr trwy arweinyddion y grwpiau.

Gellid meddwl am yr unedau a fydd yn rhan o'r Pecyn fel cyfres o gylchoedd tebyg yn dilyn y patrwm canlynol: Adfyfyrio ar ddulliau dysgu presennol Addasu polisi'r Defnyddio'r pecyn fel cyflwyniad adran i ymchwil ac arfer dda Trafodaethau Treialu/ Ymchwil adrannol pellach ddosbarth-ganolog

O ganlyniad i'r trafodaethau hynny daeth i'r casgliad fod llawer mwy o ddarllen a meddwl o ddifrif o du'r ifanc yn y Lluoedd Arfog nag a welwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roeddwn yn arbennig o falch o'r ffordd y chwaraeodd Cyngor Darlledu Cymru ei ran yn y trafodaethau ar y cyfleoedd newydd sydd yn awr ar gael i'r rhwydwaith ac i wasanaethau radio a theledu Cymru yn y ddwy iaith, a bydd yr aelodau'n monitro'r ffordd y portreadir perthnasedd materion newyddion amrywiol i gynulleidfaoedd mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Gyfunol yn agos iawn.

Dylai'r ysgol gynnwys y disgyblion a'u rhieni mewn trafodaethau am anghenion y disgyblion, a chael gweithdrefnau ar gyfer comisiynu cyfraniadau gan asiantaethau allanol lle bo angen hynny.

A gynhwysir cydgysylltydd AAA yn y trafodaethau ynghylch polisi a chyllideb?

Ffrwyth trafodaethau rhwng y ddau, gyda chefnogaeth Cyngor y Celfyddydau, a arweiniodd at sefydlu swydd oedd yn ymgorfforiad o ddyheadau'r ddau gorff.

Yn sgîl y trafodaethau a ddigwyddodd rhwng Y Swyddfa Gymreig, PDAG a'r asiantau cynhyrchu cenedlaethol yn ystod y ddwy flynedd aeth heibio, gofynnwyd i PDAG geisio cysoni'r system o gyflenwi adnoddau er mwyn sicrhau fod grantiau cyhoeddi deunyddiau addysgiadol yn cael eu dyrannu ar seiliau tebyg i bawb ac yn gyson â threfniadaeth y Cyngor Llyfrau Cymraeg.

Fodd bynnag, fedrwn ni ddim cael gwasanaeth da os nad yw'r defnyddwyr yn cael cyfle i ymuno mewn trafodaethau ac yn y broses o wneud penderfyniadau yn ymwneud a'r gwasanaeth ei hun.

Y cwbl wnaeth o gadarnhau mewn datganiad - oedd yn fawr o ddatganiad mewn gwirionedd - oedd fod trafodaethau'n cael eu cynnal ynglyn â gwerthu'r clwb.

Aeth Betsan Powys ar daith drwy Gymru gyda'i rhaglen drafod ar yr etholiad, gan gadeirio'r trafodaethau gydag awdurdod a'i stamp arbennig ei hun.

O bryd i'w gilydd wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaenau, byddai llefarydd ar ran y ddau arweinydd yn dod draw i gynnig ambell ddarn newydd ar gyfer y jig-so.

Hefyd mae pwysau o gyfeiriad GATT a'r trafodaethau gyda UDA a chost cynyddol yr holl gyfundrefn yn araf danseilio ei werth economaidd a gwleidyddol.

Cefais brofiad yn ddiweddar o ddiffygion y Ddeddf bresennol mewn trafodaethau yn y Senedd Ewropeaidd.

Hawliodd fod Fidel wedi cysylltu ag e droeon, trwy ganolwr yn Caracas, i ymbilio am gyfarfod, ond doedd ganddo ddim diddordeb mewn trafodaethau.

Aeth Betsan Powys ar daith drwy Gymru gydai rhaglen drafod ar yr etholiad, gan gadeirior trafodaethau gydag awdurdod ai stamp arbennig ei hun.

Ar hyn o bryd mae Tai Cymru/ Y Swyddfa Gymreig a chymdeithasau tai mewn trafodaethau ynglyn â chau Ysbyty Iechyd Meddwl Gogledd Cymru yn Nimbych.

Mae Abertawe yn cynnal trafodaethau gyda Mark Stein.

Mae denu'r cynyrchiadau yma wedi bod yn llwyddiant mawr i Huw Edwin, swyddog datblygu cyfryngau Cyngor Sir Gwynedd, sydd wedi chwarae rhan reit helaeth yn y trafodaethau gyda'r cwmniau.

Mae angen y cyfle hwn arnynt i osod eu hadfyfyrio a'u trafodaethau mewn cyd-destun, ac i fod yn sbardun i syniadau ac arferion dysgu ymarferol newydd.

Eleni cynhaliwyd trafodaethau rhwng swyddogion y Swyddfa Gymreig a PDAG ar raddfa ehangach na'r blynyddoedd cynt cyn y cafodd y dyraniad terfynol ei gyhoeddi, a da oedd clywed fod " y Gweinidogion yn ddiolchgar am y cyngor y bu i chi ei roi wrth ein helpu i ddod i'r penderfyniadau hyn.

Mae e eisoes wedi cael trafodaethau gyda Glyn Ebwy a chytuno telerau.

Mae ei gynnyrch yn gyfartal hefyd o ran natur y gwaith a gyhoeddodd yn y ddwy iaith: ceir barddoniaeth, emynau, pregethau, ysgrifau, cofiannau, trafodaethau hanesyddol, gweithiau defosiynol, gwaith golygu, oll yn y Gymraeg a'r Saesneg.