Mae'n bwysig iawn fod aelodau'r Pwyllgor yn deall o'r cychwyn bod modd defnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn y cyfarfod a gellir atgyfnerthu hyn yn weledol drwy osod copi o bolisi iaith y Cynulliad (pan ddaw) neu eiriau Deddf Llywodraeth Cymru ynghylch defnydd y ddwy iaith, neu Reol Sefydlog 8.23 -- 'Caiff aelodau'r pwyllgorau, a phersonau eraill sy'n annerch y pwyllgorau siarad Cymraeg neu Saesneg, a bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer trafodion Cymraeg.
Ar hyn o bryd darperir cyfieithu ar y pryd ar gyfer trafodion Cymraeg yn y Pwyllgorau, ond y mae'n amlwg o'r defnydd ar y cyfleusterau nad yw'n ddigon i roi cyfieithwyr mewn bwth i sicrhau y bydd defnydd ar y gwasanaeth. Cyn y Cyfarfod