Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tragwyddol

tragwyddol

Cynorthwya ni i dderbyn dy gynnig, ein Tad, fel y cawn ni etifeddu'r bywyd tragwyddol yr wyt ti'n ei gynnig i ni, a llawenhau yn dy gwmni a'th gariad yn y bywyd hwn.

A dyna'r celyn wedyn, arwydd o fywyd tragwyddol, sy'n cael ei ddefnyddio o hyd i addurno tai adeg y Nadolig.

Daethai'r Arglwydd Iesu i dderbyn fy Anwylyd a'i arwain i fywyd tragwyddol.

Pregeth yn hyrddio'r meddwyn i ganol tragwyddol dân a brwmstan oedd y gyntaf, a chan fod aroglau'r ddiod felltigedig, y taranai'r diwygiwr yn ei herbyn, yn halogi'r ystafell ac yn gryf ar bob awel chwyrnol o'r gadair gyferbyn ag ef, teimlai Dan yn anghysurus wrth ei darllen.

Ar noson y trawsnewid o un hanner o'r flwyddyn i'r llall, yr oedd nerthoedd goruwch-naturiol yn cael tragwyddol heol, felly amser i gymryd gofal yn ogystal ag i lawenhau yn nyfodiad haf oedd Calan Mai.

Nid ydym wedi cael un Binney i'n dysgu i blygu yn wylaidd syn yn yr olwg ar y 'Goleuni Tragwyddol', nac un Alford i'n galw gyda 'Forward be our watchword' i adael ofn y diffydd, a gweled goreu Duw a dyn yn y dyfodol; ac ni chawsom un Newman i weddio gyda ni am arweiniad yr 'hawddgar oleuni'.

Cofiais am syniadau'r athronydd Kant am weld pethau megis ag y maent "dan ffurf y Tragwyddol.

Mae'n symbol o fywyd tragwyddol am ei bod yn goeden sy'n byw am ganrifoedd gan gysylltu'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

Mae gennyf gôf plentyn o fynd ar y trên bach i'r Mwmbwls o Abertawe yn Ystod un o'r hafau poeth tragwyddol yna a gawsom i gyd fel plant, gan dreulio'r diwrnod i gyd ar fy hyd yn turio rhwng y creigiau am drysor.

Roedd yna dwr o fechgyn ifainc oedd wedi tyfu i etifeddu, nid y ffydd yn yr egwyddorion a ddygai well byd i fyw ynddo, ond y Ffydd a ddywedai fod gobaith am fywyd tragwyddol.

O gyfiawnder pur tragwyddol!

Henffych, Iesu, 'r Duw tragwyddol, Gwir a sanctaidd, perffaith ddyn!

Ac eto, pan fydd gair Duw yn dweud wrthych chi fod pwy bynnag sy'n credu yn yr Iesu yn cael bywyd tragwyddol, rydach chi'n dweud fod hynny'n rhy...rad rywsut.

Pa ham y collwch chwi eich eneidiau yn yr o'ch tragwyddol?

Ceraist y byd fel y bu iti roi dy uniganedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo Ef ond caffael ohono fywyd tragwyddol.

Byddent yn ysgrifennu ac yn gwerthu swynion i wella'r cynhaeaf, ac yn potelu cymysgeddau dirgel a fyddai'n addo ieuenctid tragwyddol i'r sawl a'u hyfai.

Y peth hanfodol yn llenyddiaeth y Dadeni Dysg oedd troi ohoni oddi wrth fyd digyfnewid y pethau tragwyddol .

Ar yr aelwyd honno fe fydd ei dad yn tragwyddol gadw dyletswydd 'yn ei "un" iaith' ac ni ddaw'r un llanw i ddiffodd 'Tân y Nef' na dryllio'r allor:

(Gellid dadlau fod y cyfeiriad at Fair yn awgrymu'r atgyfodiad ac felly'r bywyd tragwyddol sydd i enaid Siôn, ond ni allai hwnnw fod yn fwy nag awgrym cynnil.) Fe ddichon fod y bardd yn credu y byddai'r plentyn diniwed yn mynd yn syth i'r nefoedd, ac nad oedd angen ei weddi yntau arno, ond yr un mor bwysig â diwinyddiaeth y bardd yw'r olwg ar farwolaeth a gyfleir yma.

Nid mater o dybiaeth athrawiaethol oedd trafod crefydd, felly, ond mater o fyw neu farw tragwyddol.

Mi gollodd ei Fab ei waed er eich mwyn chi, er mwyn i chi gael cynnig dihangfa.' Dduw ein Tad, diolch i ti am y cynnig sydd yn dy Air di y cynnig o fywyd tragwyddol i bob un ohonom.

Iaith ysgrythur sydd mewn llawer datganiad ganddo, er enghraifft: "Y Duw-Greawdwr, y Tad tragwyddol a Thad ein Harglwydd Iesu Grist yw'r Duw y mae'n rhaid i ni ei addoli.

'Oferedd yw printio llawer o lyfrau', 'Calon Duw yw Crist', 'Mae ffynhonnau y môr tragwyddol yn torri allan'.

Rhaid oedd i'r santes (a'r lleian) osgoi uniad rhywiol â phriodfab bydol er mwyn ennill uniad ysbrydol â'i phriodfab tragwyddol yn y nef (h.y.

Gweddi: Diolch i Ti, y Duw tragwyddol, am efengyl yr Atgyfodiad.

'Duw anweledig, Duw bendigedig, meddwl tragwyddol, Trindod fendigedig anfeidrol, llawenydd anhraethol, Meistr hollalluog, undeb llonydd, anfesurol tragwyddol' a geir.